Panel Craffu Addysg Grefyddol yn Cyfarfod Eto 27 Chwefror 2017

image001 (1)

Cyfarfu Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Addysg y chwe awdurdod lleol yng Ngheredigion ar gyfer eu Grwp Cynghorwyr Craffu a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.  Rhoddir manylion isod am farnau, casgliadau ac argymhellion o’r cyfarfod hwnnw.

Rheoli Perfformiad

Clywodd y Grwp Cynghorwyr am y pecyn hyfforddi ar reoli perfformiad i ysgolion a sut mae’n cael ei gyflwyno. Croesawant ddatblygiad y pecyn hwn gan gydnabod pwysigrwydd rheoli perfformiad yn y broses gwella ysgolion.

Categoreiddio Ysgolion

Mynegodd y Grwp Cynghorwyr bryder am ddealltwriaeth y cyhoedd o’r system gategoreiddio, yn enwedig am ei fod yn ymwneud â’r gefnogaeth mae ysgolion yn ei derbyn yn hytrach na system “raddio”. Roeddent yn falch o glywed bod newid cadarnhaol wedi bod o ran cyflwyno’r mater hwn ac o ran y ffordd y mae gwybodaeth am gategoreiddio yn cael ei chyflwyno a’i hadrodd yn y wasg.

Gofynnodd y Grwp hefyd i Brif Weithredwr ERW roi mwy o wybodaeth am yr hyn a wneir i fynd i’r afael â’r sylw canlynol gan Estyn, “Nid yw deiliaid portffolio awdurdodau lleol yn gwneud cyfraniad digon clir o ran rheoli neu oruchwylio gwaith ERW er gwaethaf eu cyfrifoldeb allweddol yn eu hawdurdod lleol i oruchwylio’r gwasanaethau addysg.’.Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, bydd y deiliaid portffolio’n cael eu cynnwys yn y chwe chyfarfod Sicrhau Ansawdd Hwb a gynhelir yn wythnosol. Cwblhawyd arolwg o ddeiliaid portffolio ar draws y rhanbarth ac maent wedi dweud eu bod yn hapus gyda’u hymrwymiad.

Trafododd y grwp y sefyllfa bresennol o ran nifer yr Ymgynghorwyr Herio ac ansawdd y gefnogaeth maent yn ei rhoi i awdurdodau lleol.Roeddent yn bryderus i glywed nad oedd yr holl awdurdodau lleol yn y rhanbarth wedi cyrraedd eu cwota llawn cytunedig. Fodd bynnag, roeddent yn falch o glywed bod lefel ac ansawdd cefnogaeth Ymgynghorwyr Herio wedi gwella’n sylweddol.

Ymgyrch Recriwtio Athrawon

Roedd y grwp yn falch o glywed am gynlluniau i gynnal ymgyrch ar draws yr holl ranbarthau yng Nghymru er mwyn annog pobl i ddechrau dysgu. Cytunwyd bod angen defnyddio negeseuon cadarnhaol am addysgu yng Nghymru.

Addysg Ddewisol yn y Cartref

Ysgrifennodd y grwp at Weinidog Cymru dros Addysg ar ôl y cyfarfod diwethaf ond roeddent yn siomedig gyda’i hymateb a chyda’r arweiniad anstatudol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Roeddent yn teimlo bod pwerau cyfreithiol diogelu cadarn ar gael y gellid eu defnyddio mewn perthynas â’r agwedd hon, ond mae’n ymddangos bod amharodrwydd i gysylltu hyn â’r arweiniad Addysg Ddewisol yn y Cartref. Maent yn bwriadu ysgrifennu i Lywodraeth Cymru eto ar y mater hwn.

Llywodraethu Ysgolion

Cafodd y grwp sesiwn i edrych ar Lywodraethu Ysgolion lle trafodwyd yr hyfforddiant newydd sydd ar gael ar-lein drwy wefan ERW. Cytunodd y grwp ei bod hi’n bwysig bod Penaethiaid yn cael eu hannog i ddatblygu eu Corff Llywodraethu gan ddefnyddio’r adnoddau hyyn.

Bydd y panel yn ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor ar y Cyd ERW i gyflwyno’r barnau hyn ac mae hefyd wedi gofyn am fwy o wybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf yngl?n â pham nad yw rhai awdurdodau lleol wedi cyrraedd eu cwota llawn o Ymgynghorwyr Herio a’r hyn sy’n cael ei wneud i fynd i’r adael â hyn.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.