Wyth ffaith allweddol am graffu yn Abertawe

Mae craffu’n gwneud gwahaniaeth drwy sicrhau bod proses gwneud penderfyniadau lleol yn well, bod gwasanaethau’n cael eu gwella a democratiaeth leol yn cael ei chryfhau.

Beth yw rhai o’r ffeithiau allweddol am graffu?

  1. Prif nod craffu yw gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i’r Cabinet a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn hyrwyddo gwasanaethau, polisïau a phenderfyniadau gwell
  2. Mae craffu’n weithgaredd trawsbleidiol.
  3. Mae craffu’n gweithio mewn ffordd debyg i ddewis pwyllgorau ac mae’n cynnwys cynghorwyr nad ydynt yn aelodau o’r Cabinet.
  4. Mae craffu’n ffordd allweddol i gynghorwyr a chymunedau gyflwyno eu safbwyntiau a dylanwadu ar bolisïau’r cyngor.
  5. Gall cynghorwyr craffu ystyried materion ehangach sy’n wynebu’r ardal, gan gynnwys y rôl y mae partneriaid gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ei chwarae.
  6. Nid yw craffu’n gwneud penderfyniadau ar ran y cyngor ond gall archwilio mater, gwneud argymhellion i’r Cabinet a hefyd fonitro perfformiad y cyngor.
  7. Mae gan yr adran graffu ddyletswydd benodol i graffu ar y gwaith ar y cyd a wneir gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a hefyd graffu ar faterion troseddu ac anhrefn.
  8. Gall yr adran graffu adolygu penderfyniadau’r Cabinet cyn iddynt gael eu gwneud; craffu cyn penderfynu yw’r enw ar hyn.

Beth yw’r manteision o fod yn gynghorydd craffu?

  • Bod yn flaenllaw wrth ddylanwadu ar newid cadarnhaol i’r cyngor a gwasanaethau cyhoeddus.
  • Ymwneud â meysydd o ddiddordeb arbennig a dysgu amdanynt.
  • Gallu cynnig materion maent yn credu y byddai’n fuddiol craffu arnynt, gan gynnwys pryderon cymunedol.
  • Gofyn cwestiynau, caffael gwybodaeth a mynegi pryderon am fater penodol.
  • Mynd i’r afael â phroblem benodol, ystyried amrywiaeth o dystiolaeth a chynnig atebion.

Beth yw rôl cynghorydd craffu?

Bydd disgwyl i gynghorwyr craffu ymchwilio i wybodaeth a’i hadolygu, gwrando ar dystiolaeth a helpu i lunio canfyddiadau/argymhellion. Mae’n bwysig bod gan gynghorwyr craffu sgiliau gwrando a chwestiynu da er mwyn iddynt allu casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol.

Sut gallaf ddysgu mwy am rôl cynghorydd craffu?

Fel cynghorydd, gallwch fynd i’r Hyfforddiant Sefydlu Craffu a gynhelir yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas ar un o’r dyddiadau canlynol:

  • Dydd Llun 12 Mehefin 2017, 4.30pm i 6.30pm; neu
  • Ddydd Iau 15 Mehefin 2017, 10.00am i 12.00 ganol dydd.

Trefnir Cynhadledd Cynllunio Gwaith i Gynghorwyr yn fuan ar ôl y sesiwn sefydlu ym mis Mehefin hefyd i roi cyfle i gynghorwyr rannu syniadau am yr hyn y dylid ei gynnwys yn y rhaglen waith craffu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan ystyried blaenoriaethau’r cyngor a phryderon y cyhoedd.

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am graffu yn Abertawe ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu gallwch anfon e-bost atom yn craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.