Cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth Graffu ar Addysg

Corff Craffu Addysg Cyngor Abertawe, sef corff craffu perfformiad ysgolion, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

31 Awst 2017 am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 5 yn Neuadd y Ddinas)

Bydd y panel yn ystyried ‘Llais y Disgybl’ yn Abertawe.

Llais y Disgybl. Mewn ysgolion, gelwir cyfranogaeth disgybl mewn penderfyniadau yn aml yn ‘llais y disgybl‘. Nod Llais y Disgybl yw rhoi cyfle i ddisgyblion leisio barn ar benderfyniadau yn yr ysgol sy’n effeithio arnynt. Mae eu barn yn cael ei hystyried mewn penderfyniadau sy’n berthnasol iddynt.

21 Medi am 4.00pm (Ystafell Gyfarfod 6 yn Neuadd y Ddinas)

Bydd y panel yn derbyn diweddariad ar gynnydd yn y newidiadau i wasanaethau a llety yn y Gwasanaeth Addysg Mewn Lleoliad Heblaw’r Ysgol (EOTAS) a bydd hyn yn cynnwys ystyried sut mae ysgolion yn cynyddu’r gallu i reoli ymddygiad yn fewnol.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.
Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.