Rôl heriol iawn, sut gall y cyngor sicrhau bod llywodraethwyr ysgol yn darparu her effeithiol i’w hysgolion?

pic courtesy www.thewhocarestrust.org.uk

Cwblhawyd Ymchwiliad craffu i rôl llywodraethwyr ysgol gan gynghorwyr ym mis Ionawr 2016. Bydd cynghorwyr nawr yn cwrdd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a swyddogion yr Adran Addysg ar 25 Medi i ystyried yr effaith a’r cynnydd a wnaed gyda’r darn hwn o waith.

Daeth yr ymchwiliad gwreiddiol i’r casgliad canlynol:

Mae rôl llywodraethwyr ysgol wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llywodraethwyr yn chwarae rhan fwyfwy pwysig wrth reoli ysgolion a gwella ysgolion. Mewn llawer o ysgolion, mae cyrff llywodraethu wedi ymateb i’r newid hwn, gan geisio ffyrdd newydd o sicrhau eu bod nhw’n addasu i ofynion newidiol ond, mewn eraill, mae hen ffyrdd o weithio’n parhau ac mae angen eu diweddaru. Mae rolau’n gallu bod yn sefydlog gyda diffyg holi ac eglurdeb am y rolau hynny ac mae perthnasoedd yn gallu bod yn rhy ‘gartrefol’ sy’n gallu effeithio ar y gallu i herio ysgolion ddigon.

Mae gan bob corff llywodraethu ddeinamig gwahanol, yn union fel mae pob ysgol yn unigryw a nod yr adroddiad hwn yw amlygu egwyddorion arfer da cyffredinol y mae’r panel yn annog llywodraethwyr i’w hystyried. Yn yr un modd y mae ysgolion wedi gwella a chefnogi cyfoedion, y dylai cyrff llywodraethu ystyried sut y gallant wella eu gallu i herio ysgolion yn barhaol. Mae hyn yn bwysig, oherwydd nod corff llywodraethu effeithiol yw sicrhau bod yr ysgol yn gwneud y gorau y gall er mwyn gwella deilliannau i ddysgwyr yn ogystal â’r ffaith fod yn rhaid i ysgolion fod yn barod am arolygiad ac mae llywodraethwyr yn rhan o’r elfen Arweinyddiaeth a Rheolaeth arolygiad gan Estyn. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i lywodraethwyr deimlo’n hyderus a’u bod yn cael eu cefnogi, gyda mynediad i wybodaeth.

Wrth lunio casgliadau a chyflwyno ein casgliadau, gwrandawodd y cynghorydd yn astud ar lywodraethwyr, swyddogion y cyngor, clercod i gyrff llywodraethu, ERW, Estyn ac Aelod y Cabinet dros Addysg. Maent hefyd wedi edrych ar arfer da mewn lleoedd gwahanol ac wedi ystyried canfyddiadau o ymchwil arall, megis adolygiad Hill.

Bydd yr adroddiad effaith ar gael ar wefan y cyngor wythnos cyn y cyfarfod – dolen

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i wylio cyfarfodydd craffu. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am unrhyw gyfarfod craffu, gallwch e-bostio’r tîm craffu, scrutiny@swansea.gov.uk neu ewch i’r wefan www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.