Cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth Graffu ar Addysg?

Corff Craffu Addysg Cyngor Abertawe, sef corff craffu perfformiad ysgolion, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

18 Hydref 2018 am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 6 yn Neuadd y Ddinas)

Bydd y panel yn ystyried:

  • Y Gwasanaeth Gwella Ysgolion
  • Addysg o Safon a Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

 16 Tachwedd 2017

Bydd y panel yn ymweld ag Ysgol Gyfun yr Olchfa, gan gwrdd â’r Pennaeth a Phennaeth y Llywodraethwyr, yn ogystal â Phennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Parklands. Dewisodd y panel gwrdd â hwy oherwydd eu gwaith cydweithio o ran cynllun peilot yr ysgolion arloesi. Mae diddordeb gan gynghorwyr mewn cael gwybod sut mae hyn yn gweithio a’r hyn y gellir ei ddysgu o’r arfer da hwn y gellir ei rannu.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.