Ymchwiliad craffu i rôl llywodraethwyr ysgol

Clywyd gan y panel fod yr ymchwiliad wedi darparu cyfle defnyddiol i fyfyrio ar gefnogaeth ar gyfer llywodraethu ysgolion. Mae wedi cefnogi’r angen i’r Tîm Cefnogi Llywodraethwyr weithio’n agosach gyda chydweithwyr Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Dywedwyd wrthym fod hyn yn profi’n fuddiol wrth helpu ysgolion a chyrff llywodraethu i wella. Enghraifft o hyn yw bod Ymgynghorwyr Herio bellach yn mynd i holl gyfarfodydd cyrff llywodraethu ysgolion coch ac oren.

Roedd y panel wedi dilyn y prif argymhellion yn yr adroddiad craffu a daeth i’r casgliad, er enghraifft, fod y canlynol yn berthnasol:

  • Gwnaed y llywodraethwyr yn ymwybodol o declyn hunanwerthuso Llywodraethwyr Cymru a rhoddwyd gwybod iddynt i gynnal hunanwerthusiad. Roedd y panel o’r farn, yn ogystal â hyn, dylai’r cyngor dynnu sylw at yr hyn y gallwn ei gynnig o ran hyfforddi a datblygu er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraethu.
  • Roedd y panel yn falch o weld y llyfryn bach ar gyfer llywodraethwyr ac roeddent wedi clywed y byddai’n cael ei ddosbarthu i’r holl lywodraethwyr newydd ac y bydd ar gael ar wefan y cyngor.
  • Mae ERW wedi cynnal adolygiad o’r wybodaeth a ddarperir i lywodraethwyr ysgolion. Hefyd, mae Llywodraethwyr Cymru wedi cynnal adolygiad yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Llywodraethu Ysgolion: Fframwaith Rheoleiddio.  Mae canlyniad yr ymgynghoriad hwn wedi’i ohirio ar hyn o bryd o ganlyniad i lefelau uchel yr ymatebion. Mae Abertawe yn aros am y canlyniad ac argymhellion o’r arolygiad hwn cyn gall yr agwedd hon ddatblygu. Roedd y panel yn falch, fodd bynnag, fod dolenni ar ein gwefan i ERW, Llywodraethwyr Cymru a Fy Ysgol Leol ond roedd yn meddwl bod angen mwy o esboniad yn y dolenni i helpu llywodraethwyr i ddeall eu pwrpas.
  • Mae pecynnau data addysgol ar gael a bod ERW wedi llunio enghraifft o adroddiad y pennaeth. Teimlwyd y byddai mynediad i’r fath hon o wybodaeth yn helpu i rymuso llywodraethwyr drwy ddatblygu gwell ddealltwriaeth o wybodaeth gymhleth. Hoffai’r panel fod y dolenni i’r wybodaeth hon yn cael eu nodi ar wefan y cyngor.
  • Defnyddiwyd pecyn hyblyg o hyfforddiant yn ogystal ag argaeledd hyfforddiant pwrpasol y gellir ei drefnu ar gyfer ysgolion ac ar draws clystyrau. Roedd y panel yn croesawu cynnal cyfarfodydd yn dymhorol gyda’r Ymgynghorydd Herio dros Lywodraethu Ysgolion a’r Pennaeth Cefnogi Ysgolion er mwyn nodi cyrff llywodraethu yr oedd angen cymorth arnynt. Fodd bynnag, roeddent yn meddwl efallai nad oedd llawer o lywodraethwyr yn ymwybodol o hyn, yn enwedig am yr ymagweddau hyfforddi pwrpasol wedi’u targedu sydd ar gael at ddibenion penodol a hefyd fod hyn yn gallu cael ei nodi ar wefan y cyngor.
  • Adolygwyd cronfa ddata’r llywodraethwr ac mae bellach yn cael ei rheoli ar system wahanol ond mae angen mwy o waith i ddatblygu log dysgu ar-lein i lywodraethwyr fel eu bod yn gallu rheoli eu hyfforddiant a’u datblygiad eu hunain. Roedd y panel yn falch o glywed bod y system newydd bellach yn cael ei gweithredu a’i bod bellach lawer yn fwy hwylus i’w defnyddio. Maent bellach yn awyddus i weld cam nesaf y datblygiad: y log dysgu ar-lein ar gyfer llywodraethwyr
  • Mae’r uned llywodraethwyr yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant i lywodraethwyr yn yr hydref fel bod llywodraethwyr yn deall proses yr ymweliad craidd yn well. Roeddwn ni’n arbennig o falch o glywed bod Ymgynghorwyr Herio yn mynd i gyfarfod corff llywodraethu yr holl ysgolion coch ac oren.

Ysgrifennwyd llythyr at aelod y cabinet i ofyn iddi ystyried y materion canlynol:

Rhoi gwybod i lywodraethwyr am wybodaeth a rhoi mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor, yn arbennig mewn perthynas â:

  1. Hyfforddi a datblygu i helpu cyrff llywodraethu
  2. Sicrhau bod llyfryn bach i lywodraethwyr yn cael ei anfon at bob llywodraethwr newydd a’i fod ar gael ar wefan y cyngor.
  3. Cynnwys mwy o esboniad i gyd-fynd â dolenni i wefan ERW, Llywodraethwyr Cymru a Fy Ysgol Leol i’w helpu i ddeall yr hyn ydyn nhw a’r hyn y gallant eu gwneud ar eu cyfer.
  4. Cysylltu’r pecynnau data addysgol ac enghraifft o adroddiad y pennaeth ar wefan ERW â gwefan y cyngor.
  5. Mwy o wybodaeth i lywodraethwyr am ymagweddau hyfforddi pwrpasol wedi’u targedu sydd ar gael at ddibenion penodol a nodi bod hyn ar gael ar wefan y cyngor.
  6. Mae’r panel yn argymell bod ‘yr hyn y dylai llywodraethwyr ei ddisgwyl’ a ‘sicrhau her effeithiol: cyngor arfer da i gadeiryddion llywodraethwyr a phenaethiaid yn cael eu dosbarthu i lywodraethwyr bob blwyddyn a’u bod yn rhan o’r llyfryn newydd i lywodraethwyr newydd. Hoffent hefyd ei fod ar gael ar-lein.
  7. Ystyried ffordd o sicrhau bod deilliannau cadarnhaol arolygiadau Estyn sy’n berthnasol i gyrff llywodraethu ar gael ar wefan y cyngor.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.