Felly beth sy’n digwydd ym maes Craffu ar Addysg yn Abertawe ym mis Rhagfyr/Ionawr?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr, 2017 am 4.00pm

Bydd y panel yn edrych ar ddeilliannau addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal a sut mae ysgolion wedi gwario’u Grant Amddifadedd Disgyblion yn Abertawe. Bydd hefyd yn derbyn yr Adroddiad Archwiliad Ysgolion Blynyddol.

Dydd Iau, 18 Ionawr 2017 am 4.00pm

Yn y cyfarfod hwn, bydd y panel yn canolbwyntio ar ddata Perfformiad Blynyddol Ysgolion gan gynnwys categoreiddio ysgolion a bydd yn gwahodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes i’r cyfarfod.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.
Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.