Beth yw barn pobl ifanc Ysgol yr Olchfa am y cwricwlwm newydd i Gymru?

Bu cynghorwyr o Banel Craffu Perfformiad Ysgolion yn cwrdd â disgyblion Panel Ymgynghorol Ysgol Gyfun yr Olchfa i drafod eu barn am y cwricwlwm newydd i Gymru a sut mae’r astudiaeth beilot yn datblygu yn eu hysgol.

Gofynnwyd iddynt ystyried

  • Sut mae’r ysgol yn eu helpu i baratoi ar gyfer bywyd
  • Yr hyn mae’r ysgol yn ei wneud yn dda a’r hyn y mae angen ei wella
  • A oes ganddynt hawl i fynegi barn am benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ysgol ac ar eu dysgu

Y prif negeseuon gan y disgyblion am y cwricwlwm newydd oedd:

  1. Mae’n dda oherwydd bod dysgu bellach yn cael ei gysylltu â bywyd bob dydd disgyblion, er enghraifft dysgu am olygon ym mathemateg sy’n gysylltiedig â gwaith map neu bensaernïaeth.
  2. Mae’r sgiliau rydym yn eu dysgu yn y mathau hyn o wersi’n sgiliau y mae eu hangen mewn bywyd.
  3. Mae parch yn bwysig i ‘fywyd yr ysgol ac i fywyd y tu allan i’r ysgol…mae’n bwysig iawn bod gan blant lais: rhaid i bob disgybl yn yr ysgol gael llais. Rhaid i ddisgyblion deimlo bod eu barn yn cael eu parchu.’
  4. Mae gwersi’n dysgu sgiliau sy’n helpu i fagu hyder disgyblion fel y gallant gymryd rhan a bod yn fwy parod i rannu eu barn.
  5. Llais y Disgybl yw’r gwahaniaeth mwyaf a gafwyd yn yr ysgol. Er enghraifft: y disgyblion wnaeth benderfynu ar y pynciau i’w trafod yn ystod gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol eleni. ‘Mae disgyblion yn gweld hyn yn digwydd ac yn dysgu bod ganddynt y gallu a’r hyder i fynegi barn, a bydd hyn yn eu helpu mewn bywyd.’
  6. Mae’r ffodd y mae pethau’n cael eu haddysgu nawr yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan. Nid arholiadau’n unig sy’n bwysig, ond hefyd datblygu syniadau, ystyried y syniadau hyn a’u cwestiynu. Mae amser i fyfyrio hefyd yn dda ar gyfer ystyried syniadau a phrofiad gwahanol.
  7. Ceir mwy o ryddid o ran sut mae pethau’n cael eu gwneud fel y gallwn ddysgu a datblygu ein harddulliau dysgu ein hunain. Gallwn fod yn fwy creadigol felly, ac mae gennym fwy o reolaeth dros y broses ddysgu.
  8. Mae mwy o barch rhwng athrawon a disgyblion sy’n arwain at ddisgyblion yn teimlo eu bod yn gallu dweud eu dweud yn fwy aml, sy’n helpu disgyblion i gymryd rhan a mwynhau gwersi.
  9. Pan ofynnwyd iddynt am yr hyn y gallai’r ysgol ei wella, dywedodd disgyblion fod angen mynd i’r afael ag anghenion pob disgybl o ran bwyd a phrydau bwyd. Nid yw’r bwyd sydd ar gael yn cynnig llawer o ddewis ar gyfer llysfwytawyr ac nid oes unrhyw ddewis halal neu feganaidd ar gael er enghraifft. Roedd y disgyblion o’r farn fod angen i’r prydau ysgol adlewyrchu anghenion disgyblion er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb llawn.

Mae cynghorwyr wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes i rannu’r hyn maent wedi ei ddysgu ac wedi gofyn iddi roi mwy o wybodaeth i’r panel am yr hyn sy’n cael ei wneud yn ysgolion Abertawe i sicrhau ein bod yn adlewyrchu anghenion amrywiol disgyblion o ran y prydau ysgol sydd ar gael, er enghraifft, prydau llysfwytäol, feganaidd a halal.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.