Felly beth sy’n digwydd ym maes Craffu ar Addysg yn Abertawe ym mis Chwefror/Mawrth?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

Dydd Mawrth 13 Chwefror 2018 am 2.00pm
Bydd y panel yn edrych ar Gynigion Cyllidebol Blynyddol y cyngor mewn perthynas â materion addysg.

Dydd Iau 15 Chwefror 2018 am 4.00pm – Bydd cynghorwyr yn cwrdd â Phennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Treforys i edrych ar berfformiad presennol yr ysgol a’i rhagolygon ar gyfer gwella.

Dydd Iau 15 Mawrth 2018 am 4.00pm – Bydd cynghorwyr yn cwrdd â Phennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd yr Esgob Vaughan i drafod perfformiad presennol yr ysgol a’i rhagolygon ar gyfer gwella.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.
Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.