Craffu ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Mae perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Theuluoedd (GPTh) yn cael ei fonitro gan gynghorwyr craffu yn Abertawe. Mae newidiadau mawr yn digwydd i’r GPTh a rôl panel craffu perfformiad y GPTh yw sicrhau y cynhelir perfformiad ac y gwneir gwelliannau pellach ar draws holl feysydd y gwasanaeth.

 

Gweledigaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yw:

 

“Caiff plant diamddiffyn eu diogelu a byddant yn byw mewn teuluoedd parhaol, sefydlog, diogel a chariadus sy’n cynnig cyfleoedd am lwyddiant, gan eu galluogi i dyfu a datblygu’n oedolion iach a chytbwys.”

 

Cyfarfu’r panel am y tro cyntaf ym mis Awst 2017 lle cytunwyd ar rôl y panel, ei gylch gorchwyl a’i rhaglen waith ddrafft. Yn ogystal, trafododd y panel y prif flaenoriaethau a heriau sy’n wynebu’r GPTh yn Abertawe. Ysgrifennodd cynullydd y panel, y Cyng. Paxton Hood Williams, at Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles gydag adborth y panel.

 

Ers hynny, cyfarfu’r panel ym mis Hydref 2017 lle trafodwyd yr Adroddiadau Monitro Perfformiad a chynhaliwyd cyfarfod ychwanegol ym mis Tachwedd 2017 i drafod Adolygiad Comisiynu’r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd – Canolbwyntio ar Blant ag Anghenion Ychwanegol ac Anableddau.

 

Mae gan y panel gyfarfod ychwanegol wedi’i drefnu ar 12 Chwefror i drafod Cyllideb Ddrafft y cyngor.

 

I gael y diweddaraf ynghylch y panel a darllen yr holl lythyrau a ysgrifennwyd gan y cynullydd a’r ymatebion a dderbyniwyd, ewch i wefan Cyngor Abertawe.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.