Cyflwyniad i Graffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Prif ddiben Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid yw sicrhau bod trefniadau cyllidebol, corfforaethol a gwella gwasanaethau’r cyngor yn effeithiol ac yn effeithlon.

Mae’r panel yn cwrdd unwaith y mis i ystyried agweddau gwahanol ar fonitro cyllid a pherfformiad. Mae’r panel yn gofyn cwestiynau sy’n cynnwys:

 

  • Sut mae perfformiad yn cymharu â blynyddoedd blaenorol a pham mae’n well neu’n waeth?
  • Sut mae perfformiad yn cymharu ag awdurdodau cyfagos a gweddill Cymru?
  • Sut mae perfformiad yn cymharu â thargedau a bennwyd?
  • Beth yw barn defnyddwyr gwasanaeth/y cyhoedd/partneriaid am berfformiad y gwasanaeth?
  • Oes unrhyw welliannau/ddirywiad ym mherfformiad y gwasanaeth yn gysylltiedig â gostyngiad/cynnydd yn yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth?
  • Sut mae’r gwasanaeth yn cyfrannu at gyflawni amcanion corfforaethol?

 

Rôl y panel hefyd yw mynd i’r afael yn strategol â materion sy’n sail i gyllideb y cyngor. Mae’r panel yn gallu:

 

  • Herio a yw’r prosesau’n effeithiol ac yn hygyrch: a yw rheoli corfforaethol yn gysylltiedig â rheoli ariannol?
  • Herio sut mae adnoddau’n cael eu dyrannu, monitro sut maent yn cael eu defnyddio ac archwilio eu heffaith.
  • Profi a nodi’n glir a yw’r cyngor yn defnyddio ei gyllideb yn effeithiol i gyflawni ei flaenoriaethau a dangos a yw’r cyngor yn cyflawni gwerth am arian.
  • Darparu her ychwanegol a thryloyw i’r modd y mae’r weithrediaeth yn rheoli cyllid y cyngor.

 

Mae’r panel yn cwrdd bob mis ac mae wedi trafod y Cynllun Corfforaethol, Adroddiadau Perfformiad Diwedd Blwyddyn a Chwarterol a Monitro Cyllidebol Chwarterol

 

Trefnir cyfres o gyfarfodydd ar gyfer cynghorwyr craffu ar ddechrau mis Chwefror i drafod cynigion cyllidebol y cyngor.

Bydd hyn yn arwain at gyfarfod Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid ar 14 Chwefror. Bydd y Cynghorydd Chris Holley, cynullydd y panel, yn adrodd am farn cynghorwyr craffu am y gyllideb i’r Cabinet ar 15 Chwefror.

 

Mae’r panel yn cael adborth hefyd drwy adroddiadau blynyddol gan adrannau megis Ailgylchu a Thirlenwi, Cwynion a Llyfrgelloedd.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am holl gyfarfodydd y panel hwn drwy fynd i wefan Cyngor Abertawe.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.