Cynghorwyr Craffu’n llongyfarch Pennaeth, llywodraethwyr, staff a rheini Ysgol Gynradd Treforys

Mae Cynghorwyr Craffu o’r Panel Perfformiad Ysgolion wedi llongyfarch  Pennaeth, staff, Ymgynghorydd Herio, corff llywodraethu, rhieni a disgyblion Ysgol Gynradd Treforys am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i ysgogi gwelliant yn yr ysgol. Mae’r panel yn gyffredinol yn falch o weld tîm arweinyddiaeth cryf yn datblygu yn yr ysgol ynghyd â chorff llywodraethu cefnogol a heriol. Maent mor awyddus i weld y gwelliannau sydd wedi’u rhoi ar waith yn cael eu gwreiddio ac yn cael effaith y maent yn bwriadu ymweld â’r ysgol yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Ar 15 Chwefror cyfarfu’r panel â Phennaeth Ysgol Gynradd Treforys, Alison Thomas, ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr, y Cyng. Andrea Lewis. Dewison nhw siarad â’r ysgol oherwydd yng ngwanwyn 2017, barnodd Estyn fod ei pherfformiad presennol yn Ddigonol a’i rhagolygon ar gyfer gwella’n Ddigonol.

O’r drafodaeth â’r Pennaeth, Is-gadeirydd y Llywodraethwyr a’r Gwasanaeth Gwella Addysg, mae’r panel wedi dod i’r casgliad bod y sefyllfa yn yr ysgol yn llawer gwell yn awr o’i gymharu â fel yr oedd pethau pan gafodd ei harolygu gan Estyn ym mis Mawrth 2017. Roedd y panel yn teimlo bod hyn yn bennaf oherwydd y rhesymau canlynol:

  • Mae gan yr ysgol Bennaeth newydd a brwdfrydig sy’n ymrwymedig i sicrhau gwelliannau yn yr ysgol.
  • Mae’r ysgol yn croesawu cefnogaeth a her gan y Tîm am yr Ysgol gan gynnwys y Corff Llywodraethu; mae hefyd yn gwneud ymdrech i weithio gydag ysgolion a phenaethiaid eraill i wella a chyfnewid arfer da, er enghraifft, drwy graffu ar lyfrau.
  • Mae gan yr ysgol gefnogaeth gref gan rieni a’r gymuned leol.
  • Mae gan yr ysgol ddealltwriaeth lawer mwy cywir o’i sefyllfa o ran ei pherfformiad presennol a’i rhagolygon ar gyfer gwella (hunanwerthusiad).
  • Mae’n adolygu polisïau ac yn rhoi gweithdrefnau ar waith i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â diogelu yn yr ysgol.
  • Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cefnogol, gwybodus sy’n dangos diddordeb, a chanddo’r sgiliau angenrheidiol i helpu i ysgogi gwelliant.

Mae’r panel am ddymuno’r gorau ar gyfer y dyfodol i’r ysgol, ac mae’n edrych ymlaen at yr ymweliad ym mis Chwefror 2019.

Os hoffech fwy o wybodaeth am graffu yn Abertawe, gallwch fynd i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu neu gysylltu â ni drwy e-bost yn craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.