Cynghorwyr Craffu yn canmol cynnydd yn Ysgol yr Esgob Vaughan

Canmolwyd y pennaeth, yr uwch-dîm arweinyddiaeth a staff yr ysgol gan y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion am y gwelliannau a wnaed yn yr ysgol ers 2016 ac edrychant ymlaen at weld yr ysgol yn parhau i wella o’i sylfaen gadarn erbyn. Roedd y cynghorwyr yn falch o weld y tîm arweinyddiaeth newydd a chryf yn symud yr ysgol yn ei blaen ac yn enwedig byddent yn dathlu’r defnydd o ddulliau meddwl blaengar y mae’r ysgol yn eu defnyddio i ddatrys heriau y mae’n eu hwynebu.

Ym mis Mawrth 2018, cyfarfu’r Cynghorwyr Craffu â Phennaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd yr Esgob Vaughan. Roeddent wedi dewis siarad â’r ysgol hon gan ei bod yn y categori oren ar y matrics cefnogaeth a chategoreiddio. Roedd y cynghorwyr am drafod yr hyn y mae’r ysgol yn ei wneud i wella’i pherfformiad presennol a’i rhagolygon ar gyfer gwella.

Amlinellodd y pennaeth y cyd-destun ac atebodd nifer o gwestiynau a ofynnwyd gan y panel a oedd yn cynnwys, er enghraifft:

  • Y gefnogaeth yr oedd yr ysgol wedi’i derbyn gan yr awdurdod lleol, ERW ac ysgolion eraill.
  • Y gefnogaeth ar gyfer hyfforddi arweinwyr ysgolion newydd a darpar arweinwyr ysgolion, a’r angen i gynnwys rheoli cyllid ac adnoddau dynol yn y pecyn dysgu.
  • Y gwaith i wella perfformiad disgyblion a chanlyniadau yn yr ysgol, y gwelliannau a wnaed a’r meysydd y mae angen gwelliant arnynt o hyd.
  • Defnydd arloesol yr ysgol o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i wella perfformiad y disgyblion sydd fwyaf diamddiffyn.
  • Y gwaith parhaus i reoli a lleihau’r diffyg ariannol a goblygiadau unrhyw ostyngiadau grant yn y dyfodol.
  • Presenoldeb a gwaharddiadau
  • Cyflwr rhai o adeiladau’r ysgol a’r angen i wneud gwaith cynnal a chadw sylweddol neu ddisodli rhai agweddau.

O ganlyniad i’r drafodaeth, penderfynodd y cynghorwyr fod y sefyllfa yn yr ysgol yn well o lawer o’i chymharu â 2016 ac roeddent o’r farn bod hyn wedi digwydd oherwydd y canlynol:

  • Penodwyd pennaeth newydd a hyderus ac mae’r uwch-dîm arweinyddiaeth yn dangos eu bod yn greadigol ac yn arloesol wrth gyflwyno gwelliannau yn yr ysgol.
  • Mae arweinwyr ar bob lefel yn yr ysgol, a staff yr ysgol, yn cydweithio ac yn ymateb yn dda i’r ymgyrch i wella canlyniadau disgyblion.
  • Mae’r ysgol wedi croesawu cefnogaeth a her gan yr awdurdod lleol, yr Ymgynghorydd Herio, ac asesu cefnogaeth ysgol i ysgol.
  • Mae’r ysgol yn gweithio gyda’r Ymgynghorydd Herio i ddatblygu proses hunanwerthuso.
  • Ceir sefyllfa ariannol well o lawer yn yr ysgol a chynllun clir i gael gwared ar y diffyg.
  • Mae gan yr ysgol gynlluniau ystyriol i gefnogi disgyblion o gefndiroedd diamddiffyn. Drwy ddefnyddio’i Grant Amddifadedd Disgyblion, mae’r ysgol yn canolbwyntio ar wella canlyniadau disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd a thorri’r cyswllt rhwng anfantais a chyrhaeddiad addysgol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar berfformiad disgyblion ar gyfer disgyblion PYDd. Nodwyd gan Estyn bod hyn yn arfer da ac yn haeddu cael ei rannu ag ysgolion eraill.

Cydnabu’r cynghorwyr fod angen mynd i’r afael â rhai meysydd gwella o hyd ac mae hyn yn cael ei wneud gan fod yr ysgol yn parhau i geisio cefnogaeth ysgol i ysgol a chymorth gan yr Ymgynghorydd Herio ac arbenigwyr pwnc.

Dymunodd y pwyllgor bob llwyddiant i’r ysgol ar gyfer y dyfodol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.