Cynghorwyr craffu yn cynnig awgrymiadau i wella cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd yn Abertawe

Cyfarfu cynghorwyr craffu y Gweithgor Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd ag uwch-swyddogion yr Adran Priffyrdd a Chludiant ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd, y Cynghorydd Mark Thomas, er mwyn trafod ei adroddiad ar gynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd yn Abertawe.

Mynegodd y gweithgor bryderon yngl?n â’r ôl-groniad o waith gwerth £54 miliwn sydd ei angen ar ffyrdd ac awgrymodd y byddai gwella draenio’n arwain at wario llai ar gynnal a chadw ffyrdd.

Mae’r Cynghorydd Mark Thomas wedi cadarnhau bod yr awgrymiadau hyn wedi cael eu nodi a bod swyddogion yn archwilio’u dichonoldeb ar hyn o bryd.

Roedd cynghorwyr’n falch o glywed bod rhestr o waith cynnal a chadw priffyrdd arfaethedig ar gael ar-lein ond hoffent weld mwy o gyhoeddiadau am y fenter hon

Mae’r Cynghorydd Sam Pritchard, cynullydd y gweithgor, wedi cynnwys naw casgliad gan gweithgor yn ei lythyr at Aelod y Cabinet ac mae’r llythyr hefyd yn mynegi dymuniad y gweithgor i weld Côd Ymarfer yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â rhwystro’r ffordd gerbydau gan gerbydau datblygwyr/adeiladwyr etc. Dywedodd y Cynghorydd Mark Thomas, “Mae rhwystro’r ffordd yn fater cyfreithiol a byddwn yn datblygu côd ymarfer/arweiniad ar gyfer datblygwyr/adeiladwyr dros y 12 mis nesaf.”

 

Ewch i wefan Cyngor Abertawe i weld yr holl fanylion a thrafodaethau gan gynnwys canlyniadau’r gweithgor hwn. Gallwch gael y diweddaraf yngl?n â’r holl waith arall sy’n cael ei gyflawni gan gynghorwyr craffu yn Abertawe.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.