Beth sy’n digwydd ym myd craffu addysg yn Abertawe?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

 

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

 

Dydd Iau 17 Mai 2018 am 4.00pm

Bydd y panel yn siarad â’r Prif Swyddog Addysg am y materion allweddol sy’n wynebu addysg dros y flwyddyn sydd i ddod. Bydd cynghorwyr yna’n trafod eu rhaglen waith.

 

Dydd Iau 7 Mehefin 2018 am 4.00pm

Bydd cynghorwyr yn edrych ar sut mae ysgolion yn Abertawe’n perfformio o ran pynciau gwyddoniaeth. Bydd y panel yn siarad â Phenaethiaid 2 ysgol gyfun, arweinydd dysgu ar gyfer gwyddoniaeth ERW a swyddog/ion perthnasol Cyngor Abertawe.

 

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.