Cynghorwyr Craffu’n mynegi pryderon am ganlyniad yr Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn

Cyfarfu Cynghorwyr ar Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion yn ddiweddar i drafod Canlyniad yr Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl H?n.

Codwyd nifer o bryderon gan y panel, gan gynnwys:

  • Y ffaith fod yr adolygiad comisiynu’n cymryd gormod o amser i’w gwblhau ac y dylid fod wedi gwahanu gofal preswyl a gofal dydd gan ei fod yn ddryslyd iawn i bobl.
  • Gweledigaeth tymor hir y cyngor yw dibynnu ar y sector preifat i gyflwyno gofal preswyl safonol, a mynegodd y panel bryderon ynghylch y ffaith na fydd y cyngor yn cynnig opsiwn sector cyhoeddus. Teimlai’r panel fod angen cydnabod hyn a’i egluro i gleientiaid.
  • O ran y cynnig i gau safle Parkway, teimlai’r panel nad oedd eglurder ynghylch yr hyn a fyddai’n digwydd i’r safle pe bai’n cau. Teimlai’r panel fod posibilrwydd y bydd preswylwyr Parkway yn gwrthwynebu’r cynigion hyn yn gryf, a hoffai wybod pa gamau y bydd yr awdurdod yn eu cymryd pe bai preswylydd yng wrthod gadael.

Mae’r Cynghorydd Peter Black, Cynullydd y Panel, wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, gan ofyn iddo fyfyrio ar drafodaeth y panel a hysbysodd y Cabinet hefyd am bryderon y panel ar 19 Ebrill.

I ddarllen llythyr y Cyng. Peter Black ac i gael y diweddaraf am yr holl drafodaethau a chyfarfodydd a gynhaliwyd gan y panel hwn, ewch i wefan Cyngor Abertawe.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.