Digartrefedd yn Abertawe

Bydd Cynghorwyr Craffu yn cynnal Gweithgor er mwyn trafod darpariaeth y cyngor ar gyfer pobl ddigartref yn Abertawe. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar 14 Mai er mwyn trafod problemau Abertawe mewn perthynas â digartrefedd, y gwasanaethau sydd ar gael ac i ganfod gwybodaeth gan nifer o sefydliadau perthnasol am yr hyn sydd angen ei wneud yn lleol er mwyn gweld gwelliant.

Bydd yr ail gyfarfod a gynhelir ar 12 Mehefin, yn rhoi’r cyfle i Gynghorwyr Craffu roi adborth ar yr wybodaeth ac i ofyn cwestiynau i Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Tai ac Ynni, ac i roi argymhellion pan fo’n briodol.

Bydd cyfarfodydd y ddau Gweithgor ar agor i’r cyhoedd ac yn cael eu cynnal yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. Gwahoddir pobl i awgrymu cwestiynau.

Er mwyn cael y diweddaraf am y gweithgor hwn a holl waith arall Cynghorwyr Craffu, ewch i wefan Cyngor Abertawe. Gallwch hefyd weld agendâu cyfarfodydd Craffu yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.