Gwyddoniaeth yn Ysbrydoli Craffu

Dylai gwyddoniaeth fod yn beth gyffrous i bobl ifanc, gan roi’r sgiliau a’r cyfleoedd iddynt wella’u dyfodol. Ar hyn o bryd, nid yw pob person ifanc yn cael ei ysbrydoli gan wyddoniaeth. Mae gwyddoniaeth i’w gweld ym mhob man. Mae ysbrydoli pobl ifanc a deall hynny’n allweddol. Gallant edych y tu allan, lle gwelir coed yn troi golau’r haul yn egni wedi’i storio ac maent yn creu ocsigen i’w helpu i fyw. P’un a yw’n naturiol neu wedi’i wneud gan ddyn, mae pob agwedd ar fywyd person ifanc yn llawn gwyddoniaeth, gan gynnwys gwyddorau’r corff a’r teledu yn yr ystafell fyw.

Bydd Panel Perfformiad Craffu Ysgolion yn trafod perfformiad gwyddoniaeth yn ysgolion Abertawe yn ystod ei gyfarfod ar 7 Mehefin. Byddant yn siarad â phenaethiaid dwy ysgol sy’n dangos perfformiad eithriadol yn eu canlyniadau Gwyddoniaeth, sef Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac Ysgol Gyfun Pontarddulais. Cafodd Arweinwyr Dysgu Gwyddoniaeth Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) a Swyddogion Addysg o Gyngor Abertawe eu gwahodd i’r cyfarfod hefyd.

Byddant yn trafod materion sy’n cynnwys:

  • Data perfformiad ysgolion ym mhynciau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth ar draws Abertawe a data cymharol ar draws rhanbarth ERW a data cymharol rhanbarth ERW gyda rhanbarthau eraill yng Nghymru.
  • Sut y caiff disgyblion eu hannog a’u hysbrydoli i ddewis pynciau gwyddonol (a hybu merched yn enwedig)
  • Sut yr ydym sicrhau bod gan ddisgyblion dyheadau uchel yng ngwyddoniaeth
  • Sut yr ydym yn addysgu, yn rhannu ac yn dathlu arfer da mewn pynciau gwyddonol
  • Sut mae ysgolion rhagorol yn cynnwys disgyblion yn y pwnc a chynnal eu diddordeb
  • Sut yr ydym yn cysylltu â phobl ifanc am y camau nesaf yn y pwnc ar ôl gadael yr ysgol a rhoi cyngor iddynt
  • Sut mae ysgolion yn cysylltu â’r chweched dosbarth a cholegau er mwyn sicrhau dilyniant mewn pynciau gwyddonol

Mae croeso i chi ddod i’r sesiwn hon ac arsylwi arni ar 7 Mehefin am 4pm yn Ystafell Bwyllgor 3A yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. Bydd yr agenda ar gael wythnos cyn y cyfarfod yma

Photo: creative commons Flickr

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.