Digartrefedd yn Abertawe

Bydd Cynghorwyr Craffu yn cynnal Gweithgor er mwyn trafod darpariaeth y cyngor ar gyfer pobl ddigartref yn Abertawe. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar 12 Mehefini er mwyn trafod problemau Abertawe mewn perthynas â digartrefedd, y gwasanaethau sydd ar gael ac i ganfod gwybodaeth gan nifer o sefydliadau perthnasol am yr hyn sydd angen ei wneud yn lleol er mwyn gweld gwelliant.

Hwn fydd yr ail o ddau gyfarfod a bydd yn rhoi’r cyfle i gynghorwyr craffu roi adborth am eu canfyddiadau i Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni a Gwasanaethau Adeiladu a gwneud argymhellion pan fo angen.

Bydd cyfarfodydd y ddau Gweithgor ar agor i’r cyhoedd ac yn cael eu cynnal yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. Gwahoddir pobl i awgrymu cwestiynau.

Er mwyn cael y diweddaraf am y gweithgor hwn a holl waith arall Cynghorwyr Craffu, ewch i wefan Cyngor Abertawe. Gallwch hefyd weld agendâu cyfarfodydd Craffu yma.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.