Sut gall gweithio rhanbarthol wasanaethu preswylwyr Abertawe’n well?

Drwy holl ddryswch presennol y darlun rhanbarthol yng Nghymru, mae’r Panel Craffu  yn teimlo bod rhaid i ffocws clir fod ar ganlyniadau ein dinasyddion.Dyma oedd barn y Panel Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol sydd newydd gwblhau adolygiad sy’n edrych ar sut gall y cyngor, ynghyd â’i bartneriaid, ddatblygu a gwella gweithio rhanbarthol er lles Abertawe a’i phreswylwyr.

Roedd y panel yn teimlo ei fod yn bwysig deall goblygiadau’r penderfyniadau sy’n debygol o gael eu gwneud o ran cyfuno a chydweithio ac i fod yn barod o ran sut y byddant yn effeithio ar wasanaethau ein cymuned leol yma yn Abertawe. Y gred yw bod angen i’r cyfuniadau neu’r olion troed yn y pen draw ymwneud â’r hyn sydd orau i’n cymunedau, ac nid daearyddiaeth yn unig.

Canfu’r panel fod y darlun gweithio rhanbarthol ar draws Cymru’n gymhleth ac yn ddryslyd a bod angen i hyn gael ei symleiddio a bod angen mwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru. Mae’r panel yn cydnabod y rhesymu y tu ôl i Agenda Diwygio Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar ôl ystyried y materion sy’n wynebu awdurdodau lleol ar draws Cymru o ran caledi a fforddadwyedd canlyniadol gwasanaethau. Mae’r sector yn wynebu heriau enfawr ac felly mae angen ailfeddwl sut gellir darparu gwasanaethau mewn ffordd radical ond realistig.

Roedd y Cynghorwyr yn falch o glywed bod Abertawe wedi bod yn agored iawn i ystyriaethau o ran opsiynau cyfuno a gweithio rhanbarthol eraill. Clywsant hefyd fod llawer o’r gweithgareddau rhanbarthol y mae Abertawe’n cymryd rhan ynddynt yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddinasyddion Abertawe.

Roedd y panel yn arbennig o bryderus am un peth, sef atebolrwydd cydweithio rhanbarthol i gynghorwyr lleol, yn enwedig cynnwys craffu. Hoffai’r panel weld o leiaf y tair partneriaeth fwyaf (Bae’r Gorllewin, Ein Rhanbarth ar Waith a Dinas-ranbarth Bae Abertawe) yn cynnwys prosesau atebolrwydd a chraffu clir yn y trefniadau llywodraethu.

Hoffai’r Cynghorwyr ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r darn hwn o waith.

Gallwch weld copi llawn o’r adroddiad drwy ddilyn y ddolen: Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.