Felly, beth ddysgodd Craffu am wyddoniaeth mewn ysgolion yn Abertawe?

Cyfarfu cynghorwyr y Panel Craffu ar Berfformiad Ysgolion ar 7 Mehefin i edrych ar sut mae disgyblion yn Abertawe’n cael eu cynnwys a’u hysbrydoli mewn gwersi gwyddoniaeth yn yr ysgol. Roeddent am drafod y pwnc hwn oherwydd dylai gwyddoniaeth roi sgiliau a chyfleoedd i ddisgyblion er mwyn gwella eu dyfodol yn ogystal â bod yn gyffrous i bobl ifanc.

Siaradodd cynghorwyr ag Arweinwyr Dysgu Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), Pennaeth Cyrhaeddiad a Phartneriaeth Addysg Cyngor Abertawe a phenaethiaid ysgolion uwchradd Llandeilo Ferwallt a Phontarddulais, sy’n perfformio’n dda iawn mewn pynciau gwyddonol. Roedd rhai o’r materion a drafodwyd yn cynnwys:

  • data perfformiad yn Abertawe o’i gymharu â gweddill ein rhanbarth ac ymhellach i ffwrdd
  • sut caiff disgyblion eu hannog a’u hysbrydoli i astudio gwyddoniaeth
  • sut rydym yn sicrhau bod gan ddisgyblion dyheadau uchel yng ngwyddoniaeth
  • sut rydym yn dysgu, yn rhannu ac yn dathlu arfer da
  • yr hyn y mae ysgolion gwych yn ei wneud i gynnwys disgyblion a chadw diddordeb disgyblion yng ngwyddoniaeth
  • sut rydym yn cynghori pobl ifanc ar y camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol
  • sut rydym yn cysylltu dosbarthiadau chweched dosbarth a cholegau er mwyn sicrhau dilyniant mewn pynciau gwyddonol

Mae rhai o ganfyddiadau’r panel yn cynnwys:

  • Dengys perfformiad CA4 presennol ysgolion Abertawe fod tri chwarter o ddysgwyr wedi ennill gradd C neu’n uwch yn TGAU Gwyddoniaeth Lefel 2. Mae’r perfformiad hwn yn dangos bod Abertawe’n gyfartal â’r cyfartaledd cenedlaethol a bod y ddinas yn yr unfed safle ar ddeg o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Clywsom fod y safle wedi gwella o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ond mae perfformiad wedi gostwng yn gyffredinol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn unol â’r gostyngiad cenedlaethol o ran perfformiad.
  • Mae gwybodaeth gwerth ychwanegol yn dangos darlun amrywiol o berfformiad ar draws ysgolion yn Abertawe. Clywsant efallai bod y perfformiad yn amrywio oherwydd cynnwys data canlyniadau BTEC ac o flwyddyn nesaf ni fydd hyn yn cael ei gynnwys fel rhan o’r ffigwr, felly bydd yn dangos adlewyrchiad mwy cywir. Esboniwyd hefyd y bydd yr arholiad gwyddoniaeth newydd yn cael ei gyflwyno eleni.
  • Mae’n ymddangos nad oes unrhyw fwlch rhwng y rhywiau o ran nifer y plant sy’n astudio pynciau gwyddonol mewn ysgolion gyda merched a bechgyn yn gwneud yr un mor dda. Daw’r mater hwn i’r amlwg pan fydd disgyblion yn symud ymlaen i addysg 16+ lle mae’n llawer llai tebygol y bydd merched yn dewis pynciau gwyddonol. Teimlwyd y gallai ysgolion gwblhau sampl o gyfweliadau gadael bob blwyddyn er mwyn ceisio deall pam fod pynciau penodol yn cael eu dewis wrth barhau ag addysg ôl-16, a bydd hyn yn helpu i sefydlu pam mae disgyblion yn dewis (neu ddim yn dewis) llwybrau gyrfa penodol.
  • Y brif her y mae ysgolion yn ei hwynebu mewn perthynas â gwyddoniaeth yw’r bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim, ac mae hyn yn debyg gyda phynciau eraill. Rhwng 2016 a 2017, y gwahaniaeth oedd 23.6%. Bydd y panel yn ystyried sut mae ysgolion yn defnyddio’u Grant Amddifadedd Disgyblion i fynd i’r afael â hyn yn ddiweddarach eleni.
  • Mae ysgolion uwchradd sy’n gweithio gyda’u hysgolion cynradd clwstwr ar ddatblygu gwyddoniaeth yn gynnar yn gadarnhaol iawn.  Dengys enghreifftiau o’r ffordd hon o weithio rhwng Ysgol Gyfun Pontarddulais a’i hysgolion cynradd clwstwr. Teimlodd cynghorwyr ei fod yn bwysig buddsoddi ym mlynyddoedd cynradd disgyblion fel eu bod yn fwy parod wrth gyrraedd yr ysgol uwchradd, a hoffent weld mwy o waith clwstwr o ran gwyddoniaeth.
  • Amlinellwyd enghraifft dda o gyfuno gwyddoniaeth â’r cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a’r uwchradd gan Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt. Mae gan yr ysgol brosiect sy’n dechrau ym mlwyddyn olaf y disgyblion yn yr ysgolion cynradd ac sy’n parhau yn yr ysgol uwchradd. Nodwyd hefyd bod cadw amser rhydd yn labordy’r ysgol uwchradd sy’n bwydo er mwyn i ysgolion cynradd clwstwr ei ddefnyddio’n ffordd wych o ddefnyddio cyfleusterau cyfyngedig a dylai ysgolion uwchradd eraill ystyried y syniad hwn.
  • Teimlai’r panel fod defnyddio modelau rôl o ddiwydiannau lleol yn ffordd bositif ymlaen wrth ysbrydoli pobl ifanc i astudio technoleg a gwyddoniaeth, a pharhau i wneud hyn ar ôl yr ysgol. Cefnogodd y panel y syniad o gynnal Ffair Gyrfaoedd, digwyddiad ysbrydoliaeth gyda fideo 10 munud i ysgolion ei ddefnyddio i ysbrydoli disgyblion pan fyddant yn dechrau ystyried eu llwybrau gyrfa.
  • Mae cefnogaeth i ysgolion ac athrawon unigol yn hanfodol. Ystyrir bod sgiliau a gwybodaeth yr athrawon yn ganolog i’r dysgu, yn ddelfrydol gyda dosbarthiadau’n cael eu harwain gan arbenigwr pwnc ond os nad yw hynny’n bosib, gall athrawon ddatblygu eu sgiliau er mwyn addysgu gwyddoniaeth yn benodol. Roeddem yn falch o glywed bod ERW yn cynnig y dewis datblygu hwn a hefyd fod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig cwrs trosi er mwyn i athrawon ddod yn arbenigwyr o ran pynciau gwyddonol. Teimlwyd bod y defnydd o dechnolegau a gweithgareddau digidol newydd yn ddefnyddiol ond nid yw hyn yn disodli’r angen am addysgu blaengar ac ardderchog. Dysgu ac addysgu o safon uchel yw’r ffordd ymlaen mewn gwyddoniaeth.
  • Ystyriwyd hefyd bod ffocws cyffredinol ysgolion ar wyddoniaeth, y cynllunio tymor hir a’r defnydd o ddata hefyd yn elfennau allweddol wrth ystyried pa mor dda mae disgyblion yn cymryd rhan ac yn perfformio. Teimlodd y panel y bydd arweinyddiaeth ac ymroddiad ysgolion i wyddoniaeth a thechnoleg yn cael eu hadlewyrchu ym mrwdfrydedd ac ysbrydoliaeth gyffredinol disgyblion yn y pynciau hynny

Caiff llythyr at Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau ei lunio cyn bo hir a fydd hyn yn amlygu holl ganfyddiadau’r panel, a gofynnir iddi roi ei barn am y canfyddiadau hyn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.