Craffu’n edrych ar ddigartrefedd yn Abertawe

Cyfarfu cynghorwyr y Gweithgor Craffu ar Ddigartrefedd i edrych ar yr hyn y gall y cyngor ei wneud i ymdrin â digartrefedd yn Abertawe.  Edrychwyd yn arbennig ar weithgareddau’r cyngor i reoli digartrefedd, y sefyllfa bresennol, perfformiad y gwasanaethau perthnasol a’r heriau a wynebir.

Cynhaliwyd cyfarfod gyda nifer o bobl â diddordeb gan gynnwys: Noddfa Ddigartref Abertawe, Shelter Cymru, Crisis, Wallich Dinas Fechan, Caer Las, Zac’s Place, Matthew’s House, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion perthnasol o Gyngor Abertawe.

Roedd rhai o’r materion a drafodwyd yn cynnwys:

  • Y nifer cynyddol o bobl ddigartref ag anghenion cymhleth/lluosog gan gynnwys iechyd meddwl ac nid oes gan lawer o’r rhain sgiliau bywyd sylfaenol ac mae angen cefnogaeth barhaus arnynt dros gyfnod hir o amser, yn arbennig o ran cynnal tenantiaeth. Mae diffyg llety arbenigol ar gyfer y bobl hynny ag anghenion cymhleth/lluosog.
  • Mae bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer hosteli sy’n derbyn menywod, pobl dan 21 oed a’r ddarpariaeth ar gyfer dinasyddion yr UE neu bobl heb fynediad i gronfeydd cyhoeddus.
  • Mynegwyd mai ychydig iawn o lety mewn argyfwng sydd ar gael i barau digartref. Rhentu preifat yw’r unig lwybr arall ar wahân i fyw ar y stryd.
  • Mae’r trothwy ar gyfer oedolion digartref a diamddiffyn i gael cefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol yn rhy uchel.
  • Roedd pob asiantaeth yn dadlau bod angen diwygio system y Porth, sef yr unig system gyfeirio ganolog sy’n gweithredu’r holl lety (hostel) â chymorth yn Abertawe.  Hoffent weld Swyddog Porth dynodedig yn goruchwylio’r holl leoedd gwag mewn hosteli yn Abertawe.
  • Troi allan o lety â chymorth oherwydd ôl-ddyledion rhent a’r angen i gefnogi cleientiaid sy’n cael cymorth i agor cyfrifon banc er mwyn talu am wasanaethau.

Cytunodd y gweithgor y dylai craffu gwblhau gwaith craffu cyn penderfynu ar y strategaeth digartrefedd cyn iddi fynd gerbron y Cabinet i’w chymeradwyo.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.