Craffu ar Arfarniad Opsiynau Mwy o Gartrefi ar Safle Parc yr Helyg

Cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 19 Mehefin i edrych ar adroddiad Arfarniad Opsiynau Mwy o Gartrefi ar Safle Parc yr Helyg a gyflwynwyd yn dilyn hynny i’r Cabinet ar 21 Mehefin. Mynegodd y pwyllgor ei farn i’r Cabinet ar y penderfyniad arfaethedig.

Roedd yr adroddiad yn cynnig y cynigion ar gyfer ail ddatblygiad ym Mharc yr Helyg sy’n cynnwys 16 o dai un/dwy ystafell wely, gan gynnwys yr arfarniad o opsiynau a’r ymagwedd argymelledig mewn perthynas â’r safonau dylunio.

Ar ôl ystyried yr adroddiad, mae rhai o’r materion yr amlygwyd i’r Cabinet gan y pwyllgor yn cynnwys, er enghraifft (gellir gweld copi llawn o’r llythyr yma):

  • O ran y penderfyniad cyffredinol y mae gofyn i’r Cabinet benderfynu arno, nid oes gan y pwyllgor unrhyw wrthwynebiadau i’r argymhellion. Fodd bynnag, roedd pryder ymhlith rhai aelodau ynghylch cost sylweddol y gwaith allanol ym Mharc yr Helyg. Mae’r adroddiad yn datgan bod hyn oherwydd natur y safle, yr angen i ddargyfeirio/symud ceblau uwchben, gwaith mawr er mwyn mynd i’r afael â draenio d?r wyneb a’r angen am waliau cynnal. Trafododd y Cynghorwyr gost/budd gwaith o’r fath a sut mae wedi effeithio ar gostau uned a hyfywedd y gwaith adeiladu.
  • Roedd y pwyllgor yn deall y rhesymau dros ffafrio manyleb Safon Abertawe, a’r angen i fwrw ymlaen â’r rhaglen adeiladu tai er mwyn darparu mwy o dai fforddiadwy ac i gefnogi ymdrechion y cyngor o ran lleihau tlodi. Fodd bynnag, oherwydd y goblygiadau ariannol, bydd angen i’r cyngor feddwl yn ofalus am adeiladu tai ac ystyried a fyddai’n well i ganolbwyntio ar safle Colliers Way yn lle, o ystyried yr heriau penodol a ddisgrifir ym Mharc yr Helyg.
  • Nododd y pwyllgor y gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i’r prosiect peilot cyntaf yn Colliers Way a byddai Safon Abertawe’n cael ei hystyried yn arloesol ac yn fwy tebygol o ddennu cyllid gan Raglen Tai Arloesol a Grant Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru. Er, nad oedd yn hysbys yn y cam hwn yr hyn a fyddai costau cais llwyddiannus, a gall y canlyniad effeithio ar fanylebau’r dyluniad terfynol a’r nodweddion arloesol.
  • Cytunwyd hefyd y byddai adeilad wedi’i gwblhau yn null Passivhaus ar Colliers Way a Safon Abertawe ym Mharc yr Helyg yn caniatau cymhariaeth fwy cywir o berfformiad a chostau’r ddwy fanyleb er mwyn cyfeirio penderfyniadau ynghylch adeiladu tai yn y dyfodol.
  • Tynnodd aelodau’r pwyllgor sylw at y tai newydd trawiadol a adeilawyd yn Colliers Way, a llongyfarchwyd pawb a oedd yn rhan o’r gwaith unwaith eto. Roeddent yn arbennig o falch o glywed am y cyfraniad a wnaed gan ein prentisiaethau a’r profiadau cadarnhaol a gafwyd o fod yn rhan o’r prosiect.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.