Cynghorwyr Craffu Abertawe yn edrych ar sut mae’r cyngor a’i bartneriaid yn cefnogi Cydlyniant Cymunedol

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu’r Gweithgor Cydlyniant Cymunedol ar 20 Mehefin i edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Buont yn siarad â chynrychiolwyr o Dîm Tlodi a’i Atal y cyngor, Heddlu De Cymru a’r Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol.

Cafwyd trafodaeth ynghylch cynnydd ar lawer o faterion, gan edrych yn benodol ar:

  • Rôl Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwaith cydlyniant cymunedol.
  • Gwaith sy’n cael ei wneud i alluogi grwpiau gwahanol o bobl i ddod ymlaen yn dda gyda’i gilydd a meithrin parch at wahaniaethau yn ein cymdeithas.
  • Sut yr ymdrinnir â rhwystrau i gydlyniant cymunedol a beth yw’r canlyniadau.
  • Sut caiff llwyddiant ei fonitro a sut mae gwaith partneriaeth wedi datblygu.
  • Enghreifftiau lleol o waith ar amcanion cenedlaethol.
  • Gweithio gydag aelodau wardiau a’u cynnwys.
  • Rhai cyflawniadau allweddol wrth brif ffrydio cydlyniant cymunedol.

O’r drafodaeth, daeth cynghorwyr i’r casgliadau canlynol:

  • Gallai cynghorwyr wardiau gael eu cynnwys yn fwy wrth brif ffrydio cydlyniant cymunedol. Byddai’n ddefnyddiol petai aelodau wardiau yn cael mwy o wybodaeth am yr hyn y gallant gyfranogi ynddo a’r hyn y gallant ei wneud i helpu. Gallai anfon e-bost rheolaidd at yr holl gynghorwyr yn rhoi gwybod iddynt am ddigwyddiadau a gweithgareddau ac yn cynnwys dolenni i unrhyw erthyglau chwalu chwedlau newydd neu wybodaeth ddefnyddiol fod yn fan cychwyn.
  • Gwnaethant fynegi ein pryder ynghylch diffyg ac ansicrwydd adnoddau ar gyfer prif ffrydio cydlyniant cymunedol o ganlyniad i doriadau cyllidol Llywodraeth Cymru – swydd y Cydlynydd Rhanbarthol yw’r unig adnodd.
  • Mae’r partneriaethau presennol yn gweithio’n dda.
  • Mae angen cyswllt gwell â Chydlynwyr Ardaloedd Lleol. Gofynnodd cynghorwyr a oes angen iddynt gael rôl fwy wrth brif ffrydio cydlyniant cymunedol.
  • Roeddent yn falch o glywed am yr wybodaeth am chwalu chwedlau. Hoffent weld hyn yn cael ei ddefnyddio’n ehangach, ei gyflwyno ar-lein a’i rannu ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Clywodd cynghorwyr am rai o’r gweithgareddau gwych sy’n cael eu cynnal a chanmolwyd digwyddiad Pride Abertawe’n arbennig.
  • Byddai gwybodaeth i lywodraethwyr ysgolion yn ddefnyddiol fel y gallant gael effaith uniongyrchol ar gydlyniant cymunedol yn ysgolion Abertawe. Gallai hyn gynnwys mynediad at daflenni chwalu chwedlau a chyngor ar sut gallant brif ffrydio cydlyniant cymunedol yn eu hysgolion.
  • Mwy o ddefnydd o gyfryngau lleol, gan gynnwys drwy gyfathrebu corfforaethol, i rannu straeon newyddion da a gwybodaeth chwalu chwedlau yn ein cymunedau.

Mewn llythyr at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl), mae’r gweithgor wedi gofyn iddi ystyried y pwyntiau canlynol ac ymateb iddynt.

  1. Datblygu rôl gryfach ar gyfer cynghorwyr wrth brif ffrydio cydlyniant cymunedol.
  2. A oes angen cael rôl fwy ar gyfer Cydlynwyr Ardaloedd Lleol wrth brif ffrydio cydlyniant cymunedol?
  3. Dylid rhannu/defnyddio’r wybodaeth am chwalu chwedlau yn ehangach, ei chyflwyno ar-lein a’i rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
  4. Bod cysylltiadau’n cael eu gwneud gyda Chyrff Llywodraethu ac y dosberthir gwybodaeth iddynt.
  5. Gwneud mwy o ddefnydd o gyfryngau lleol, gan gynnwys defnyddio cysylltiadau corfforaethol i rannu mwy o straeon newyddion da a gwybodaeth chwalu chwedlau yn ein cymuned leol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.