Galwad am dystiolaeth ar gyfer  Ymchwiliad Craffu’r Amgylchedd Naturiol

Bioamrywiaeth

Mae panel ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau a fydd yn edrych ar yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth. Dros y misoedd nesaf, bydd y panel yn ymchwilio i agweddau ar yr amgylchedd naturiol a bydd yn ceisio ymdrin â’r cwestiwn allweddol canlynol;

Beth dylai Cyngor Abertawe ei wneud er mwyn cynnal a gwella ei amgylchedd naturiol a’i fioamrywiaeth a, thrwy wneud hyn, hyrwyddo gwydnwch ecosystemau?’

Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y rhesymau canlynol:

  • Mae dau ddarn diweddar a phwysig o ddeddfwriaeth – Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – yn gosod gofynion ar y cyngor i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn cael eu blaenoriaethu.
  • Mae cynghorwyr wedi bod eisiau cyflawni’r darn hwn o waith er mwyn creu darlun ac i gael gwell dealltwriaeth o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn y maes hwn.
  • Mae cynghorwyr am sicrhau, o ystyried amrywiaeth a chyflymder datblygiad yn Abertawe, fod yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn cael eu hystyried ar bob cam.

Llwybrau Ymholi

Bydd y panel yn canolbwyntio’n benodol ar y cwestiynau canlynol:

  1. Darlun Abertawe: Beth yw’r llun mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol fel y mae’n effeithio ar Abertawe ar hyn o bryd? Beth yw’r cynigion ar gyfer y dyfodol? Beth yw’r nod?
  2. Darlun Ariannol: Beth rydym yn cyfrannu ato’n ariannol ar hyn o bryd? Sut rhagwelir iddo newid yn y dyfodol?
  3. Partneriaid: Y berthynas bresennol rhwng Cyngor Abertawe a’r partneriaid perthnasol? Y rhwystrau i wella hyn?
  4. ch) Effaith: Pa effaith a gafwyd ar Abertawe a’i phreswylwyr hyd yn hyn?
  5. Craffu: Pa ddulliau craffu sydd wedi’u hymgorffori yn nhrefniadau llywodraethu’r amgylchedd naturiol?
  6. dd) Deddfwriaeth a Chyfarwyddebau: Beth yw dylanwadau
    cyfarwyddebau/polisi/deddfwriaeth genedlaethol a lleol ar yr amgylchedd
    naturiol?
  7. Arfer Da: A oes enghreifftiau da o arfer effeithiol o ran bodloni gofynion mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol a sut rydym ni/mae partneriaid yn defnyddio hyn i wella?

Sut i fynegi’ch barn…?

 Hoffai’r Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd yr Ymchwiliad, annog y cyfranogiad ehangaf posib gan aelodau’r cyhoedd: ‘Mae bywyd gwyllt a mannau byw bywyd gwyllt wedi dioddef dirywiadau difrifol yn ystod y degawdau diweddar.  Rydym ni’n rhan o fyd natur – ydyn ni am golli llawer o’r gwahanol fodau byw sydd mor ganolog i’n byd, neu allwn ni weithredu i’w hachub drwy fyw ein bywydau’n wahanol?  Cyflwynwch eich syniadau a’ch barn am sut gallwn oedi a dadwneud y dirywiad hwn.  Gallwn ei wneud gyda’n gilydd.’

Anogir grwpiau neu unigolion â diddordeb i gyflwyno’u tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad drwy e-bostio craffu@abertawe.gov.uk erbyn 30 Medi Awst 2018. Efallai y bydd y panel yn cysylltu â chi i drafod eich tystiolaeth. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymchwiliad fel arfer. Os nad ydych am i’ch tystiolaeth gael ei chyhoeddi, nodwch hynny’n glir wrth ei chyflwyno

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.