Cynghorwyr craffu’n ystyried newidiadau arfaethedig i’r Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn Abertawe

Edrychodd Cynghorwyr Craffu ar y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ar adroddiad Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau sy’n cynnig argymhellion ar gyfer newidiadau i’r Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn Abertawe, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018.

Ystyrion nhw adroddiad y Cabinet a’r penderfyniad arfaethedig a rhoddon nhw eu barn i’r Cabinet ar 19 Gorffennaf 2018 cyn i’r penderfyniad gael ei wneud.

Mae adroddiad y Cabinet yn amlinellu tri dewis wrth symud ymlaen, a dewis 2 yw’r un a ffefrir: Cadw gwasanaeth canolog bach ar gyfer newydd-ddyfodiaid ac ysgolion sydd â niferoedd isel o ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Datganoli gweddill yr arian i ysgolion sydd â niferoedd uchel o ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol gan ddefnyddio fformiwla i ddatblygu’u darpariaeth eu hunain.

Ar ôl ystyried adroddiad y Cabinet, gan drafod ag Aelod y Cabinet a’r Swyddog, cytunodd y panel ar y pwyntiau canlynol a gafodd eu codi yng nghyfarfod y Cabinet ar 19 Gorffennaf 2018:

Mae’r panel yn cefnogi’r penderfyniad arfaethedig y dylai dewis 2 gael ei ffafrio ar gyfer dyfodol y gwasanaeth. Y gred yw y bydd y model hwn, gan ystyried yr amodau ariannol cyfredol, yn darparu’r cydbwysedd gorau drwy gadw tîm canolog bach ac yna ddatganoli gweddill yr arian i ysgolion. O ystyried hyn, hoffai’r panel bwysleisio’r pwyntiau canlynol:

  • Bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol a’r ysgolion unigol fonitro effaith hyn ar gyflawniad disgyblion yn agos.
  • Bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol a’r ysgolion ddatblygu perthnasoedd gweithio ehangach â chymunedau lleol, grwpiau cymunedol a’r brifysgol, er enghraifft, yn y dyfodol er mwyn darparu cefnogaeth a llenwi rhai o’r bylchau iaith sydd wedi’u nodi.
  • Mae angen cwblhau archwiliad o’r sefydliadau hynny sydd ar hyn o bryd yn darparu cefnogaeth a/neu’n derbyn grant ar gyfer cefnogi lleiafrifoedd ethnig. Gellir defnyddio hwn wedyn i feithrin a datblygu gwydnwch a chefnogaeth well ar gyfer y disgyblion y mae eu hangen arnynt.
  • Mae angen cydnabod bod cefnogaeth yn cynnwys mwy nag anghenion ieithyddol yn unig.
  • Mae pryderon gan y pwyllgor yngl?n â’r diffyg dealltwriaeth canfyddedig mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi’i ddangos.
  • Mae pryderon yngl?n â’r effaith negyddol bosib ar brofiadau’n plant a’n pobl ifanc a’u hawliau fel y’u amlinellir yn y Mesur Plant a CCUHP. Gyda’n dealltwriaeth well o effaith tymor hir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae’n rhaid mesur/monitro’r effaith (gadarnhaol neu negyddol) y tu hwnt i baramedrau cul yr hyn rydym yn ei fesur fel “cyrhaeddiad” ar hyn o bryd.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.