Dywed Cynghorwyr Craffu fod Ysgol Gynradd Tre-gwyr yn ardderchog

Ymwelodd y Panel Craffu Perfformiad â chyfleuster y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Tre-g?yr, gan gwrdd â’r Pennaeth, yr Ymgynghorydd Herio, Ymgynghorydd y Cyfnod Sylfaen, staff a disgyblion. Roedd y panel am ymweld ag ysgol sy’n dangos arfer ardderchog yn ei Chyfnod Sylfaen. Dewison nhw Ysgol Gynradd Tre-g?yr yn sgîl ei hadroddiad Estyn o fis Medi 2017 a oedd yn dweud:

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Tre-g?yr yn mwynhau profiadau dysgu llawn dychymyg a gynllunnir gan eu hathrawon ac yn gwneud cynnydd da wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Mae ansawdd yr addysgu’n gyson dda ar draws yr ysgol. Mae’r Cyfnod Sylfaen bywiog yn gryfder arbennig. Mae’n cyflwyno sgiliau cynhwysfawr i ddisgyblion er mwyn iddynt wneud yn fawr o gamau canlynol eu haddysg.

Amlygwyd tri pheth allweddol gan yr ysgol, y teimlai’r panel y gallent helpu i wella’r Cyfnod Sylfaen ar draws ysgolion yn Abertawe:

  1. Hybu pwysigrwydd Athroniaeth y Cyfnod Sylfaen a sicrhau ei bod hi’n flaenoriaeth i Abertawe (a Chymru gyfan o ystyried y newidiadau niferus i’r cwricwlwm).
  2. Hyfforddiant – nodi’r arfer da sy’n bodoli yn yr awdurdod a’i rannu’n effeithiol.  Systemau cyfathrebu effeithiol i fynd i’r afael â’r agenda cydbwysedd gwaith/bywyd ac i ddatblygu adnoddau a rennir.  Nodi a datblygu sawl Hwb arbenigedd i gefnogi ysgolion eraill a gweithio gyda hwy i’w cynorthwyo.
  3. Ariannu – mae angen ariannu staff hyfforddedig a chymarebau  oedolion/disgyblion yn briodol. Nid yw’r Grant Gwella Addysg cyfredol yn bodloni canllawiau statudol ar gyfer hyfforddiant staff ac adnoddau. Os bydd y cyllid hwn yn diflannu, bydd athroniaeth y Cyfnod Sylfaen yn diflannu gydag ef.

Canfu cynghorwyr fod nifer o ffactorau allweddol, yr hoffent eu rhannu, yn arwain at Gyfnod Sylfaen llwyddiannus, gan gynnwys:

  • Pwysigrwydd ymrwymiad arweinwyr ysgol i ddatblygiad plant a’r egwyddorion sy’n sail i athroniaeth y Cyfnod Sylfaen, a’r ffaith fod ganddynt ddealltwriaeth lawn o’r rhain.  Dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a’r hyn y mae dysgu drwy chwarae’n ei olygu.
  • Ymrwymiad ariannu, gan fod angen llawer o adnoddau ar y Cyfnod Sylfaen.
  • Amgylcheddau dysgu sy’n fywiog, sy’n ysbrydoli ac yn hwyluso dysgu sy’n hybu annibyniaeth a dysgu plant.
  • Hyfforddiant a datblygiad staff gwych a rennir ac a bersonolir ar gyfer arfer yr ysgol honno.
  • Gwaith tîm ac ymagwedd ysgol gyfan, sy’n cynnwys cynorthwywyr addysgu mewn cyfarfodydd cynllunio ac wrth drafod cynnydd disgyblion, rhannu arfer da, adnoddau a syniadau.
  • Systemau da a chysondeb wrth eu defnyddio gan gynnwys pecynnau cymorth mewn dosbarthiadau, amgylcheddau dysgu, darllen, ysgrifennu a chysondeb marcio ar draws yr ysgol gyfan.
  • Cwricwlwm creadigol a diddorol sy’n briodol i ddatblygiad plant, sy’n gytbwys ac yn cynnwys sgiliau sylfaenol.
  • Cynllunio ar gyfer cyfranogaeth a chyfranogiad disgyblion.

Llongyfarchwyd yr ysgol gan y Cynghorwyr am ei defnydd llwyddiannus o’r amgylchedd dysgu awyr agored a’r rhaglen Ysgol Goedwig ac am ei gwaith partneriaeth gyda’i chlwstwr o ysgolion, Consortiwm y Ddinas a phartneriaethau awyr agored Abertawe.

Crëodd yr ysgol argraff fawr ar y panel ac fe’i hysbrydolwyd ganddi, nid yn unig oherwydd yr adeilad newydd sy’n wirioneddol addas i blant, ond oherwydd ymrwymiad, gwybodaeth ac ymroddiad yr uwch-arweinwyr a staff yr ysgol, sy’n amlwg yn mynd gam ymhellach ar gyfer eu disgyblion. Hoffai’r panel ddiolch i bawb yn yr ysgol am eu hamser a’u harbenigedd a dymuno’n dda iddynt am y dyfodol.

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.