Oes gennych chi gwestiwn ar gyfer Aelodau’r Cabinet?

Mae Pwyllgor Rhaglen Graffu’r Cyngor yn sicrhau bod Cabinet y cyngor yn atebol a, thrwy gydol y flwyddyn, mae’n trefnu sesiynau holi ac ateb gyda phob Aelod y Cabinet.

 

 

 

 

Bydd pob sesiwn holi ac ateb yn archwilio’r gwaith y mae Aelodau’r Cabinet wedi’i wneud yn ei rôl, gan edrych ar flaenoriaethau, camau gweithredu, llwyddiannau ac effeithiau.

Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddynt?

Anfonwch eich syniadau atom trwy wneud sylw ar y blog hwn, trwy e-bostio craffu@abertawe.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.

Bydd y pwyllgor yn ystyried unrhyw awgrymiadau wrth lunio ei strategaeth holi, a bydd cwestiynau allweddol yn cael eu cyflwyno i Aelodau’r Cabinet perthnasol pan fyddant yn ymddangos gerbron y pwyllgor.

Mae’r Cabinet yn cynnwys yr Arweinydd, y Cynghorydd Rob Stewart, a chynghorwr a benodir gan yr arweinydd, y dyrennir cyfrifoldebau penodol iddynt.

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, fydd yn cychwyn sesiynau eleni, gan ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 13 Awst.

Bydd aelodau eraill y Cabinet yn ymddangos fel a ganlyn:

Pryd:                                      Pwy:

10 Medi 2018:                       Y Cyng. Clive Lloyd (Y Dirprwy Arweinydd) – Trawsnewid Busnes a Pherfformiad

8 Hydref 2018:                      Y Cyng. Jennifer Raynor – Gwella Addysg, Dysgu  a Sgiliau

12 Tachwedd 2018:             Y Cyng. Will Evans / Y Cyng. Elliot King – Gwasanaethau Plant

10 Rhagfyr 2018:                 Y Cyng. Mark Child – Gofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda

14 Ionawr 2019:                   Y Cyng. Rob Stewart (Yr Arweinydd) – Economi a Strategaeth

11 Chwefror 2019:               Y Cyng. Mark Thomas – Yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

11 Mawrth 2019:                  Y Cyng. Robert Francis-Davies – Buddsoddi,  Adfywio a Thwristiaeth

8 Ebrill 2019:                         Y Cyng. June Burtonshaw / Y Cyng. Mary  Sherwood – Cymunedau Gwell

13 Mai 2019:                         Y Cyng. David Hopkins – Cyflwyno

Mae cyfarfodydd y pwyllgor yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i chi ddod. Fel arfer, cynhelir pob cyfarfod yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, gan ddechrau am 4.30pm.

Caiff crynodeb o bob sesiwn, gan gynnwys cwestiynau a holir gan y cyhoedd, ymatebion, a barn y pwyllgor, eu cynnwys mewn llythyr at aelod perthnasol y Cabinet. Mae’r llythyron hyn a’r ymatebion iddynt gan Aelodau’r Cabinet yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor ac mewn agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu y dyfodol.
 

 

Delwedd: https://flic.kr/p/2eVMS6

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.