Eich barn am yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn Abertawe

Bioamrywiaeth

Penodwyd Panel Craffu i edrych yn fanwl ar sut mae Cyngor Abertawe’n ystyried yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth.

Cynhelir yr ymgynghoriad tan yr hydref a bydd yn ystyried barn amrywiaeth o bobl a darparwyr. Ar ddiwedd yr ymgynghoriad, bydd y panel yn llunio adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Abertawe gydag argymhellion.

Cwestiwn yr ymgynghoriad yw ‘Beth dylai Cyngor Abertawe ei wneud er mwyn cynnal a gwella ei amgylchedd naturiol a’i fioamrywiaeth a, thrwy wneud hyn, hyrwyddo gwydnwch ecosystemau?’

Mae’r panel yn y broses o gasglu tystiolaeth a hoffai glywed eich barn.

Byddai’r panel yn ddiolchgar iawn pe baech yn cwblhau ac yn dychwelyd yr holiadur atodedig.

Mae’r arolwg ar agor tan 30 Medi 2018 – Cyswllt i’r Arolwg

Mae eich barn yn bwysig.

Diolch.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.