Cynghorwyr craffu i edrych ar anghydraddoldebau yn Abertawe

Bydd cynghorwyr craffu yn Abertawe’n cynnal ymchwiliad i anghydraddoldeb yn Abertawe. Codwyd y mater hwn fel ffocws ar gyfer gwaith craffu manwl eleni gan gynghorwyr yn eu Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu ym mis Mehefin 2018. Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi sefydlu panel o gynghorwyr i edrych yn benodol ar y mater ac awgrymwyd y dylai’r ymchwiliad ystyried:

  • Pa mor dda y mae’r cyngor yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru) ac amcanion?
  • Pa mor effeithiol y mae cydraddoldeb yn cael ei wreiddio ar draws y cyngor a sut mae hyn yn cael ei fonitro a’i fesur?
  • Archwilio materion cydraddoldeb penodol megis amrywiaeth y gweithlu, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, cynnwys grwpiau gwahanol a mynediad at wasanaethau.

Bydd y panel bellach yn cwrdd am y tro cyntaf ar 11 Hydref pan gaiff trosolwg o’r maes ei drafod a’i ystyried gan siarad ag aelod perthnasol y Cabinet a’r Pennaeth Gwasanaeth. Yna bydd aelodau’r panel yn cynllunio ei ddarn o waith, gan drafod â phwy hoffent siarad a pha dystiolaeth y maent am ei chasglu.

Byddwn yn blogio eto wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo, felly bydd rhagor maes o law!

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn neu graffu’n gyffredinol, gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.