Beth sy’n digwydd ym myd craffu addysg yn Abertawe?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dyma’r cyfarfodydd sydd ar ddod ar gyfer y panel hwn:

Dydd Iau 27 Medi 2018 am 4.00pm

Bydd cynghorwyr yn edrych ar Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl ac yn derbyn y diweddaraf am y safonau proffesiynol newydd i athrawon ac arweinwyr ysgolion.

Dydd Mercher 17 Hydref 2018 am 2.00pm

Bydd cynghorwyr yn ymweld ag ysgol yn Abertawe i siarad â’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr am berfformiad presennol a’u taith wella.

Dydd Iau 15 Tachwedd 2018 am 4.00pm

Bydd Cynghorwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd datblygiadau gwasanaeth a gwella lleoliadau yn y gwasanaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Byddant hefyd yn derbyn y diweddaraf am gynnydd yn y Strategaeth Lles ac Ymddygiad.

Ceir copïau o’r holl agendâu craffu yma (bydd papurau ar gyfer y ddau gyfarfod ar gael erbyn diwedd yr wythnos cyn y cyfarfod).  Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

Am ragor o wybodaeth am graffu yn gyffredinol, ewch i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/craffu

 

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.