Cynghorwyr Abertawe i edrych ar lygredd aer a swn

Sefydlwyd gweithgor i edrych ar lygredd aer a swn yn Abertawe. Bydd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a Phennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y materion â chynghorwyr ac i ddarparu adroddiad trosolwg am y mater.

Byddant yn edrych ar yr wybodaeth sydd ar gael, yn gofyn cwestiynau ac yn trafod y sefyllfa bresennol yn Abertawe ac unrhyw effeithiau ynghyd â sut mae llygredd yn cael ei fesur a’i fonitro yn ogystal ag ymdrechion i leihau/mynd i’r afael ag unrhyw broblemau a nodwyd.

Cynhelir y cyfarfod ar 6 Tachwedd am 10.30am yn Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe. Bydd yr agenda ar gael wythnos cyn y cyfarfod drwy ddilyn y ddolen hon

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.