Felly, beth fu effaith yr Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi?

Bu Cynghorwyr yn cwrdd gydag Aelodau’r Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl) a swyddogion yr wythnos diwethaf i drafod sut i symud ymlaen â nifer o awgrymiadau gan Banel Ymchwiliad Craffu i Drechu Tlodi.

Clywodd y Panel mai prif effaith yr ymchwiliad oedd llunio ffocws clir ar gyfer mynd i’r afael â threchu tlodi gan gynnwys y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r gwaith traws-adrannol/trawsbynciol. Meddai Aelod y Cabinet ei bod hi’n credu y daw’r gwahaniaeth positif bellach o waith Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi a bydd hyn yn helpu i bennu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Roedd y Cynghorwyr yn falch o glywed bod y broses graffu’n ddefnyddiol wrth ddatblygu sefyllfa dda i ddechrau.

Roedd Cynghorwyr yn falch o weld fod cynnydd da wedi’i wneud gyda rhan fwyaf yr argymhellion craffu a ddaeth o’r ymchwiliad, gyda rhai o’r materion sy’n cael eu trafod yn cynnwys:

  • Yr ymgynghoriad i ddatblygu’r Strategaeth Trechu Tlodi
  • Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi – clywsom nad yw’r argymhelliad yma wedi cael ei gwblhau ond mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Bydd yr astudiaeth cyfranogiad yn Abertawe yn cael ei rhoi ar waith gan ddefnyddio’r model comisiynu tlodi, ar ôl ystyried arfer da mewn mannau eraill
  • Cynllun Cyflawni newydd y cyngor lle mae gan bob Aelod y Cabinet gamau gweithredu ynddi a bod cynnydd yn cael ei adrodd bob chwarter.
  • Arian Ewrop ac effaith Brexit
  • Gwneud y defnydd mwyaf posibl o gaffael cymdeithasol yng ngweithgareddau’r cyngor a thrwy ei bartneriaethau a defnyddio enghraifft Cyngor Preston. Roedd diddordeb mawr gan y cynghorwyr yn y cysyniad yma, wrth gydnabod bod peth o’r gwaith yn cael ei gyflawni yn Abertawe yn Y Tu Hwnt i Frics a Morter ond gallai’r ffordd yma o weithio gael ei ehangu ymhellach yma; gan gredu y gallai fod yn yriant allweddol i’r economi leol, fel yn Preston. Mae’r mater wedi’i gyfeirio at y Panel Craffu Datblygu ac Adfywio am ystyriaeth bellach

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cyfarfod hwn neu gyfarfodydd craffu eraill, cliciwch yma

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.