Cynghorwyr Craffu’n ymweld ag Ysgol Gynradd Treforys

Yn ystod y cyfarfod ar 20 Chwefror 2019, ymwelodd y cynghorwyr craffu ag Ysgol Gynradd Treforys er mwyn cwrdd â’r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a’r Ymgynghorydd Herio i drafod sut mae’r gwelliannau a drafodwyd pan ddaeth cynghorwyr i gwrdd â nhw ym mis Chwefror y llynedd yn cael eu rhoi ar waith.

O ganlyniad i’r drafodaeth hon, daeth y cynghorwyr i’r casgliad fod y gwelliannau a roddwyd ar waith y llynedd yn cael eu gwreiddio’n gadarn erbyn hyn. Roedd y panel yn teimlo bod hyn yn bennaf oherwydd y rhesymau canlynol:

  • Mae’r ysgol mewn sefyllfa llawer mwy cadarn o ran staffio ar ôl penodi Pennaeth ac, yn fwy diweddar, Dirprwy Bennaeth.
  • Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cefnogol a gwybodus sy’n dangos diddordeb, a chanddo’r sgiliau angenrheidiol i helpu i ysgogi gwelliant.
  • Parodrwydd yr ysgol i weithio yn ogystal â’r gefnogaeth gan yr awdurdod lleol a’r Gwasanaeth Gwella Addysg.
  • Mae’r ysgol yn dysgu trwy weld arfer da gan ysgolion eraill, a thrwy rannu arfer da ag ysgolion eraill.
  • Mae rheolaeth llawer gwell o adnoddau’n arwain at sefyllfa ariannol well i’r ysgol.
  • Mae’r ysgol yn derbyn cefnogaeth gadarn gan rieni a’r gymuned leol, ac mae’r ysgol yn gweithio’n galed i godi ei phroffil.
  • Mae dulliau cyfathrebu’r ysgol wedi gwella, yn enwedig ar gyfer rhieni, gan gynnwys gwefan newydd sy’n fwy hygyrch, cylchlythyr rheolaidd a’r gallu i anfon negeseuon testun yn uniongyrchol at athrawon.

Cafodd arweiniad ac egni’r Pennaeth wrth ymgysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) er mwyn defnyddio darn o brysgdir yng nghefn yr ysgol fel ysgol goedwig ac ardal dysgu awyr agored argraff dda iawn ar y cynghorwyr. Dyma enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni mewn ardaloedd trefol iawn.

Hoffai’r cynghorwyr craffu longyfarch y Pennaeth a staff yr ysgol, yr Ymgynghorydd Herio a chorff llywodraethu’r ysgol unwaith eto am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’r gwelliannau hyn, sydd yn amlwg yn dechrau dwyn ffrwyth.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.