Cynghorwyr Craffu’n canolbwyntio ar ddefnydd Cyngor Abertawe o ddata

Yn ei gyfarfod diweddaraf, edrychodd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddefnydd y Llywodraeth Leol o Ddata.

Roedd Aelod y Cabinet a’r Swyddog sy’n gyfrifol am y gwaith yn bresennol i esbonio’r adroddiad a’r gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau bod defnydd data’n flaenoriaeth.

Clywodd y panel, er bod rheoli a rhannu data’n gallu bod yn anodd, fod Cyngor Abertawe’n gweithio’n galed i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn effeithiol ac yn ddiogel.

Dywedwyd wrth y panel fod angen cael caniatâd fel y gellir rhannu data penodol rhwng adrannau a bod preswylwyr yn gallu canfod pa ddata a gedwir amdanynt.

Roedd yn ddiddorol clywed am rai o brosiectau posib y dyfodol a allai gynnwys data sy’n ddienw i gynllunio prosiectau ac i benderfynu ar gyllidebau.

Mae hefyd Strategaethau Digidol newydd ar ddod yn hwyrach yn y flwyddyn a fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth.

Bydd y Panel yn derbyn Cynllun Gweithredu sy’n ymateb i argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y chwarter nesaf a byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am yr hyn sydd ar y gweill – gyda’ch caniatâd chi, wrth gwrs!

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.