Craffu: Gadewch i ni ei ddadansoddi

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw pwrpas craffu, pam y mae’n bodoli a pha fanteision a geir ohono?

Rydym wedi llunio’r arweiniad syml hwn i helpu i ateb y cwestiynau pwysig hyn.

Craffu

Eir ati i graffu drwy ‘holi effeithiol’ sy’n golygu gofyn y math o gwestiynau sy’n canfod ffeithiau pwysicaf mater a’r wybodaeth iawn.

Arweinir y gwaith craffu gan gynghorwyr. Mae gan Gyngor Abertawe 72 o gynghorwyr sydd wedi’u hethol yn lleol.

Mae 12 o’r cynghorwyr hyn yn Aelodau Cabinet a elwir hefyd yn Aelodau Gweithredol. Nhw yw’r prif wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau yn y cyngor.

Mae gan bob Aelod Cabinet bortffolio gwahanol o adrannau a gwasanaethau yn y cyngor y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae gan weddill y cynghorwyr gyfle i fod yn rhan o’r broses graffu drwy wirfoddoli eu hamser. Eu rôl yn y maes craffu yw dal yr Aelodau Cabinet i gyfrif, bod yn llais y cyhoedd a helpu i ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus y cyngor.

Cyfeirir at gynghorwyr sy’n rhan o’r gwaith craffu fel Cynghorwyr Craffu.

Mae tîm o staff y cyngor hefyd, sef Swyddogion Craffu, sy’n cefnogi’r Cynghorwyr Craffu yn eu gwaith.

Mae’r Tîm Craffu’n cyflawni amrywiaeth o dasgau. Maent yn trefnu cyfarfodydd, yn gofyn am adroddiadau, yn gweithio gydag adrannau i ddatblygu cynlluniau gwaith ac yn ysgrifennu’r holl lythyrau ac adroddiadau sy’n ymwneud â chraffu. Maent hefyd yn ymchwilio i bynciau ac yn trefnu grwpiau ffocws a phrosiectau cynnwys y cyhoedd eraill i olrhain effaith gwaith y Paneli Craffu.

Pam y mae angen Adran Graffu arnom?

Cyflwynwyd craffu gan y gyfraith drwy Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i bob awdurdod lleol a chanddo drefniant gweithredol (a Chabinet sy’n gwneud penderfyniadau) gyflawni swyddogaeth ‘Trosolwg a Chraffu’. 

Y prif reswm y cyflwynwyd hwn yw oherwydd bod pob awdurdod lleol yn y DU, cyn y Ddeddf hon, yn arfer gwneud penderfyniadau drwy gyfarfodydd y cyngor llawn (yr holl gynghorwyr etholedig).

Ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol 2000, gall awdurdodau lleol benodi Aelodau Cabinet i wneud y penderfyniadau, ac mae’n rhaid i weddill y cynghorwyr graffu ar yr Aelodau Cabinet drwy bwyllgorau craffu.

Yn gyffredinol, dylai pwyllgorau craffu adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y cyngor – sy’n golygu y dylent gynrychioli’r partïon gwleidyddol a etholwyd.

Sut mae Craffu’n gweithio?

Trefnir gwaith cyffredinol Craffu gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu. Gr?p o Gynghorwyr Craffu yw’r pwyllgor hwn sy’n trefnu ac yn rheoli’r hyn y creffir arno bob blwyddyn. Arweinir Pwyllgor y Rhaglen Graffu gan gadeirydd. Cadeirydd presennol Pwyllgor y Rhaglen Graffu yw’r Cynghorydd Mary Jones.

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n edrych ar faterion gwahanol. Mae’r pwyllgor fel arfer yn cwrdd bob mis ac mae’n aml yn cynnal ‘Sesiynau Holi ac Ateb’ gydag Aelodau’r Cabinet. Gall aelodau’r cyhoedd (ac aelodau staff Cyngor Abertawe) gyfrannu syniadau ar gyfer y ‘Sesiynau Holi ac Ateb’ hyn. Dosberthir Cylchlythyr Craffu bob mis i wahodd y fath syniadau.

Mae’r holl waith arall a wneir gan y Cynghorwyr Craffu’n cael ei wneud drwy grwpiau craffu gwahanol. Gelwir y rhain yn Baneli Craffu. Mae gan bob Panel Craffu gynullydd sy’n arwain y panel. Gwaith y cynullydd yw cadeirio’r holl gyfarfodydd a chysylltu ag Aelodau’r Cabinet drwy lythyrau i ofyn cwestiynau sydd gan y panel, rhoi argymhellion y mae’r panel wedi cytuno arnynt neu roi adborth cyffredinol o gyfarfodydd a gynhelir.

Mae 3 phrif fath o banel:

  1. Paneli Craffu Perfformiad – mae’r rhain yn cwrdd yn rheolaidd ac yn adolygu perfformiad rhai pynciau, er enghraifft, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, cyllidebau
  2. Paneli Ymchwiliad Craffu – mae’r paneli hyn yn edrych ar un pwnc yn fanwl am 6 i 9 mis ac yn llunio adroddiad sylweddol sy’n cynnwys tystiolaeth a syniadau am newid ar gyfer yr aelod perthnasol o’r Cabinet.
  3. Gweithgorau Craffu – cyfarfodydd untro yw’r rhain lle’r edrychir ar eitem o ddiddordeb mewn un cyfarfod ac yna llunnir llythyr gyda sylwadau a syniadau

Beth yw buddion craffu?

Mae craffu’n cynrychioli ‘llais’ y cyhoedd a gall gwestiynu Aelodau’r Cabinet ynghylch y gwaith maen nhw’n ei wneud. Drwy ofyn y cwestiynau iawn a darllen adroddiadau a anfonir atynt, gall y Cynghorwyr Craffu wneud sylwadau am yr hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn y gellid ei wella.

Gan fod y gwaith craffu’n cael ei arwain gan gynghorwyr a etholwyd yn lleol, gallant fynegi safbwyntiau sy’n berthnasol i’w hardal leol a’r bobl leol sydd wedi’u hethol. Dyma’r hyn sy’n gwneud gwaith craffu’n werthfawr: hyrwyddo democratiaeth.

Mae cyfarfodydd craffu fel arfer yn agored i’r cyhoedd (oni nodir yn wahanol), ac felly gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio Craffu i sicrhau bod eu pryderon ynghylch gwasanaethau’r cyngor yn cael eu clywed.

Mae gan Gynghorwyr Craffu’r p?er i ofyn i Aelodau’r Cabinet neu Swyddogion y Cyngor o holl adrannau’r cyngor ddod i’w cyfarfodydd craffu. Yn y cyfarfodydd hyn, mae Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn ateb cwestiynau ac yn cyflwyno neu’n trafod y gwaith maen nhw’n ei wneud o ran y gwasanaethau sy’n rhan o’u portffolio (neu eu hadran). Mae hyn yn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau’r cyngor eu gwella’n gyson.

Mae Cynghorwyr Craffu hefyd yn gallu helpu i wella polisïau sydd ar waith a rhoi mewnbwn ar bolisïau sy’n cael eu datblygu neu bolisïau newydd yr edrychir arnynt o bosib yn y dyfodol.

Ar ôl pob cyfarfod, anfonir llythyr neu adroddiad at yr aelod perthnasol o’r Cabinet sy’n egluro’r hyn roedd y panel yn ei feddwl am y cyfarfod a pham. Rhaid i Aelodau’r Cabinet ymateb i’r holl lythyrau a anfonir gan Gynghorwyr Craffu’n ysgrifenedig o fewn deufis. Cyhoeddir yr holl lythyrau sy’n cael eu hanfon at y Cabinet a’u derbyn ganddo ar wefan y cyngor.

Mae’n bwysig nodi, er y gall Cynghorwyr Craffu roi argymhellion i wella i’r Cabinet, ni allant rymuso unrhyw argymhelliad os nad yw’r Cabinet yn cytuno, neu os nad yw’n gallu (am unrhyw reswm penodol) rhoi’r argymhellion a wnaed ar waith.

Mae gan Gynghorwyr Craffu’r p?er i “Alw i mewn’, sef i ofyn i’r Cabinet ailystyried penderfyniadau cyn eu rhoi ar waith.

Mae Craffu yno i gynrychioli’r bobl. Gall craffu effeithiol arwain at welliannau ym mholisïau a gweithdrefnau’r cyngor, sy’n beth da i bawb!

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.