Cynghorwyr Craffu’n hapus iawn gyda chanlyniadau’r Ymchwiliad i’r Amgylchedd Naturiol

Ym mis Gorffennaf ymatebodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno i Ymchwiliad Craffu’r Amgylchedd Naturiol. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn a chymeradwywyd 18 o’r 20 o argymhellion gan wrthod y ddau a oedd yn weddill am resymau ariannol. Os bydd y cyllid ar gael, caiff y ddau argymhelliad sy’n weddill eu rhoi ar waith.

O ganlyniad i waith caled y Panel a’r timau’n gweithio yn yr Amgylchedd Naturiol rydym yn symud yn nes ac yn nes at fod yn arweinydd ym maes cyfoethogi bioamrywiaeth.

Cafodd hyn ei gydnabod gan Dîm Craffu Cyngor Caerdydd sydd wedi gwahodd y Cynghorydd Peter Jones i gyflwyno a thrafod canfyddiadau’r Ymchwiliad. Roedd y Cynghorydd Jones yn hapus iawn gyda hyn a dywedodd y bu’r cyfarfod yng Nghaerdydd ‘yn gynhyrchiol iawn‘.

Dolen i Adroddiad y Cabinet: Cliciwch Yma

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.