0 syniad i wella lles mewn ysgolion

Ymwelodd Cynghorwyr o’r Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ag Ysgol Gymunedol Dylan Thomas ym mis Gorffennaf i gwrdd â’r pennaeth, cadeirydd y llywodraethwyr ac aelodau eraill o staff yr ysgol.

Penderfynodd y Cynghorwyr siarad â’r ysgol hon oherwydd eu bod wedi clywed am arfer da’r ysgol mewn perthynas â lles disgyblion gyda’r nod o wella cyrhaeddiad disgyblion, a llwyddo i wneud hynny. Mae’r Panel hefyd yn deall bod lles yn agwedd allweddol ar y cwricwlwm newydd ac roedd yn meddwl y byddai’n amser da i gael dealltwriaeth dda o’r materion allweddol drwy weld y gwaith a wneir yn yr ysgol gyda disgyblion.

Clywodd y Cynghorwyr am y cyd-destun a’r rheswm pam mae lles yn allweddol ar gyfer Ysgol Gymunedol Dylan Thomas. Dywedwyd wrthynt ei bod yn ysgol uwchradd â mwy na 529 o ddisgyblion, gan gynnwys tri Chyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA) ar y safle. Mae 70% o’r disgyblion yn byw yn 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru felly mae lefel uchel o dlodi yma. Mae 54% o’r disgyblion yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim. Mae gan dros 60% o’r disgyblion oed darllen sy’n sylweddol is na’u hoedran cronolegol pan fyddant yn cyrraedd blwyddyn 7. Nodir 60% o ddisgyblion fel rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae nifer y cwynion am iechyd meddwl yn cynyddu ac mae’r gyfradd symud a throsglwyddo yn ystod y flwyddyn yn uchel.

Clywodd y Panel mai ffocws yr ysgol a’r staff yw cynyddu disgwyliadau ar gyfer disgyblion a gwella’u dyheadau; clywsant fod nifer o ddisgyblion talentog yn yr ysgol ond, yn anffodus, nid yw rhai o’r disgyblion bob amser yn meddwl eu bod yn ddigon da ac maent yn tanbrisio’u gallu. Esboniodd y Pennaeth Gweithredol na ellid defnyddio’r rhwystrau a’r heriau y mae’r ysgol yn eu hwynebu fel esgus am safonau gwael, a rhoddodd rai esiamplau i’r Cynghorwyr o ddisgyblion sydd wedi rhagori yn yr ysgol. Cytunodd y Cynghorwyr fod cael dyheadau uchel ar gyfer pob disgybl yn hollbwysig.

Nododd y Cynghorwyr nifer o bwyntiau dysgu o’r ymweliad yr oeddent am eu rhannu:

Gellir gwella lles trwy sicrhau’r canlynol:

  1. Mae lles wrth wraidd yr hyn a wneir
  2. Mae disgyblion yn cael eu hatgoffa’n gyson o’r disgwyliadau ac mae eu dyheadau’n cael eu cynyddu
  3. Mae’r ysgol yn magu ac yn gwella perthnasoedd yn gyson yn yr ysgol, gyda rhieni a chyda’r gymuned leol
  4. Mae staff yn canolbwyntio ar bethau cadarnhaol yn hytrach na chosbau: ymagwedd gadarnhaol tuag at gyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion (er enghraifft, nodi a hyrwyddo pethau cadarnhaol, rhoi clod, gwobrwyo, cwrdd a chyfarch wrth gatiau’r ysgol, a throeon dysgu yn hytrach nag ystafell ymddygiad)
  5. Mae’r ysgol yn falch o’i disgyblion ac mae’n datblygu ymdeimlad o gymuned
  6. Mae staff yn deall nad yw’r un peth yn addas ar gyfer pawb, ac felly’n ystyried yr unigolyn pan fo angen
  7. Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill megis Evolve, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, gwasanaethau Addysg Heblaw yn yr Ysgol, Ymddiriedolaeth y Tywysog, etc.
  8. Caiff staff eu hyfforddi mewn gwella ymddygiad ac osgoi gwaharddiadau, sy’n cynnwys ymagweddau Pivotal tuag at ymddygiad.
  9. Mae gan yr ysgol gorff llywodraethu cryf a heriol sydd hefyd yn gefnogol
  10. Mae’r ysgol yn rhannu ac yn ceisio arfer gorau er mwyn gwella’n barhaus.

Hoffai’r Panel longyfarch pawb yn yr ysgol a’r corff llywodraethu am eu holl waith caled a’u hymrwymiad at y broses o wella.

Diolchodd y Cynghorwyr i’r bobl ifanc a wnaeth eu tywys ar daith o gwmpas yr ysgol, a dywedon nhw eu bod yn llysgenhadon arbennig.

Canmolwyd yr ysgol gan y Panel am ddatblygu awyrgylch lle mae disgyblion yn teimlo’n werthfawr a dymunodd y gorau i’r ysgol yn y dyfodol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.