Felly, beth sy’n digwydd ym maes Craffu ar Addysg?

Panel Craffu Perfformiad Ysgolion, sef corff craffu addysg Cyngor Abertawe, sydd â’r rôl o ddarparu heriau parhaus o ran perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn Abertawe’n derbyn addysg o safon, ac i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei amcanion i wella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Dros yr ychydig gyfarfodydd nesaf byddant yn trafod:

Dydd Iau 19 Rhagfyr 2019 am 4.00pm Bydd Cynghorwyr yn edrych ar gynnydd Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Abertawe.

Dydd Iau 16 Ionawr 2020 am 4.00pm Bydd Cynghorwyr yn cwrdd i drafod y Data Perfformiad Addysg Blynyddol ar gyfer 2018/19, gan gynnwys perfformiad Plant sy’n Derbyn Gofal

Dydd Iau 13 Chwefror 2019 am 4.00pm Bydd y panel yn edrych ar gynnydd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan gynnwys datblygiadau Band B, cyn canolbwyntio ar Gludiant Ysgol.

Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd wylio o’r oriel gyhoeddus.

I gael mwy o wybodaeth am y Tîm Craffu’n gyffredinol, ewch i’n gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.