
Bydd Cynghorwyr Craffu o’r chwe awdurdod lleol yn cwrdd 27/01/2020. Pwrpas y grwp yw helpu i sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau i blant yn y Rhanbarth trwy gefnogi craffu effeithiol i
- gefnogi craffu cyson ar draws y chwe chyngor
- rhannu arfer da o ran craffu
- annog ymagweddau craffu a rennir ac osgoi dyblygu gwaith craffu
- rhoi her feirniadol a gwrthrychol i ERW ar bynciau o ddiddordeb yn ôl y galw
- cyfrannu i lywodraethu ERW mewn modd da ac effeithiol
Ar 27/01/2020, bydd cynghorwyr yn
- Siarad â Chadeirydd Cyd-bwyllgor ERW a’r Prif Weithredwr Arweiniol am gynnydd gyda’r rhaglen ddiwygio, y strwythur llywodraethu sy’n dod i’r amlwg a’r cynllun dirprwyo ynghyd â’r cynnydd o ran cyflwyno’r cwricwlwm newydd
- Cwrdd ag Arweinydd ERW ar gyfer y Cwricwlwm Uwchradd ac Arholiadau
- Cwrdd ag Arweinydd ERW ar gyfer Partneriaethau Sefydliadau Addysg Uwch
Bydd copi o’r Agenda ar gael ar wefan ERW bythefnos cyn y cyfarfod.
Leave a Comment