Sut mae Abertawe’n gwneud cynnydd ynghylch diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Llun trwy garedigrwydd: Dinas a Sir Abertawe

Roedd y Panel Craffu Perfformiad Addysg wedi cwrdd ym mis Rhagfyr i drafod y cynnydd sy’n cael ei wneud ynghylch diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Roedd cynghorwyr yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r strategaeth ADY, y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, y pwysau arfaethedig a’r cynllun diwygiedig i liniaru’r rhain.

Clywodd y panel fod yr awdurdod yn wynebu newidiadau digynsail o ran ADY yn dilyn cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADYTA 2018).

Clywodd Cynghorwyr fod Abertawe wedi ymgysylltu’n dda ar lefel rhanbarthol â’r pum awdurdod arall yn y de-orllewin, sef Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Benfro, Powys a Cheredigion.

Hefyd datblygwyd strategaeth a chynllun gweithredu ADY, a bydd Gr?p Llywio’r Strategaeth ADY yn eu harwain. Roedd y panel yn falch o glywed y byddai’n cynnwys rhieni/gofalwyr a fydd yn helpu i oruchwylio’r broses o’u rhoi ar waith.

Mae’r panel yn cydnabod y bydd y Ddeddf ADYTA a rhoi’r côd perthnasol ar waith yn her enfawr nid yn unig i’r Adran Addysg ond hefyd i ysgolion, y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, yr Adran Iechyd a llu o bartneriaid eraill. Roedd yn falch o glywed bod Abertawe wedi gwneud cynnydd da wrth gynyddu ymwybyddiaeth ac wrth ddechrau ar waith asiantaethau eraill i ddatblygu ‘cynnig’ lleol integredig sy’n diwallu anghenion dysgwyr rhwng 0 a 25 oed.

Ym marn y panel, y ddau beth pwysicaf ar gyfer gwneud cynnydd da yw arian priodol ac, yn ail, gweithio mewn partneriaeth/gweithio integredig llwyddiannus. Mynegodd y panel bryderon ynghylch disgwyliad Llywodraeth Cymru y byddai rhoi’r Ddeddf ar waith yn niwtral o ran cost.

Mae’r Panel Craffu Addysg yn bwriadu dilyn y cynnydd yn agos, a bydd yn gofyn am ddiweddariadau rheolaidd wrth i’r broses o gynllunio a chyflwyno’r Ddeddf hon fynd yn ei blaen.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.