Lles disgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen yn “ysbrydoledig” dywedodd Cynghorwyr Craffu Abertawe

Cytunodd Cynghorwyr y Panel Craffu Perfformiad Addysg fod yn ysbrydoledig gweld sut y gall disgyblion ddod yn fwy gwydn a pharod i ddysgu pan gânt eu cefnogi.

Diolchodd y panel i bennaeth Ysgol Gynradd Waun Wen a Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr am ddod i’n cyfarfod ar 19 Tachwedd. Gwnaethant edrych ar Ysgol Gynradd Waun Wen fel rhan o’u brîff i gadw llygad ar agwedd lles fel rhan o’r cwricwlwm newydd yn ogystal â sut mae ysgolion yn ymdrin â’r sefyllfa bresennol o ran COVID.

Gallwch wylio’r fideo o’r cyfarfod hwn drwy ddilyn y ddolen hon

Amlinellodd y pennaeth rai o’r heriau yr oedd yr ysgol yn eu hwynebu cyn COVID, sut y maent yn ceisio lliniaru’r heriau hyn a’r hyn y mae’r ysgol wedi’i wneud i gadw lles disgyblion yn ganolbwynt drwy gydol cyfnod COVID.

Clywodd y panel fod cyd-destun yr ysgol yn heriol gyda 57% yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim, 47% Saesneg fel Iaith Ychwanegol (27 iaith) a 42% o Anghenion Dysgu Ychwanegol (5 datganiad) a nifer uchel o ddisgyblion yn byw yn ardaloedd 1 neu 2 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol wedi dioddef o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a elwir hefyd yn ACES.  Un o’r materion allweddol a wynebir yn yr ysgol yw anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Deallwyd bod yr ysgol wedi wynebu nifer o heriau cyn COVID gan gynnwys: sgorau gwaelodlin isel iawn, diffyg geirfa, anhawster yn defnyddio iaith fynegiannol, plant sydd wedi dioddef trawma, y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â theuluoedd, plant nad ydynt yn gallu rheoleiddio eu hunain, plant nad ydynt yn barod i ddysgu. Clywodd y panel am rai o’r ffyrdd y mae’r ysgol wedi mynd i’r afael â’r problemau hyn drwy ddefnyddio hyfforddiant ar eirfa (cyflwyno gwersi geirfa penodol), hyfforddiant ar drawma, a gweithiodd ACES gyda Phrosiect Gwella a’r Prosiect Lab Empathi (datblygu geirfa i fynegi teimladau).

Dywedwyd wrth y cynghorwyr, ers y cyfyngiadau symud, fod yr ysgol yn sicrhau bod amser ar gael i ffonio teuluoedd, dosbarthu bwyd i ddisgyblion PYDd, a rhedeg banc bwyd yn yr ystafell staff i rieni. Llwyddon nhw i gael gafael ar wyau Pasg i bob disgybl, dosbarthu toes chwarae a llyfrau gwaith i bob disgybl i sicrhau bod yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rhieni nad oes ganddynt fynediad llawn at TG, yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol. Roedd gan y cynghorwyr ddiddordeb mewn clywed am sut roedd yr ysgol yn annog disgyblion ac yn rhoi sicrwydd i rieni drwy greu ffilm fer ar sut olwg fyddai ar yr ysgol pan fyddent yn dychwelyd ym mis Medi.

Clywodd Cynghorwyr sut roedd Llywodraethwyr yr ysgol, yn enwedig y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, yn cefnogi’r ysgol drwy’r cyfnod hwn drwy wneud galwadau ffôn rheolaidd, rhoi cefnogaeth dros e-bost a chytuno â newidiadau i bolisi a chwricwlwm.

Roedd y Panel yn falch o glywed bod y gefnogaeth a ddarperir gan y cyngor i ysgolion yn dda iawn ac roedd yn cynnwys cyrsiau a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol, llythyrau i rieni gan y Cyfarwyddwr Addysg dros dro, arweiniad a chefnogaeth Iechyd a Diogelwch gan gynnwys gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau ei bod yn llongyfarch Uwch-dîm Rheoli’r ysgol sydd wedi wynebu’r heriau ac wedi mynd i’r afael â nhw er mwyn galluogi disgyblion i fod yn barod i ddysgu pan fyddant yn yr ystafell ddosbarth. Cefnogodd y Cynghorwyr eiriau’r Cyfarwyddwr Addysg pan ddywedodd ei bod yn falch o Ysgol Gynradd Waun Wen bob amser ond yn ystod cyfnod COVID-19, maen nhw wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.