Cynghorwyr Abertawe’n craffu ar gynigion y Gyllideb Flynyddol

Bydd Cynghorwyr Craffu’n craffu ar bapurau’r Gyllideb Flynyddol a gânt eu cyflwyno i Gabinet y cyngor ar 18 Chwefror 2021.

Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn craffu ar y papurau hyn cyn penderfynu arnynt ond cyn hynny bydd gan y paneli craffu gwahanol y cyfle i edrych ar y gyllideb o safbwynt gwasanaeth unigol.

Caiff yr agendâu eu cyhoeddi a byddant ar gael yn y dolenni hyn yn ystod yr wythnos cyn y cyfarfodydd.

Os oes gennych gwestiwn ar gyllideb eleni yr hoffech i Craffu ei drafod gallwch ei anfon at craffu@swansea.gov.uk erbyn 12pm ar y diwrnod gwaith olaf cyn y cyfarfod.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.