Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar wasanaethau’r cyngor.
Er ei fod yn hanfodol i aelodau anweithredol barhau â’u gwaith craffu i geisio gwella gwasanaethau cyhoeddus y cyngor, mae amserau digynsail yn arwain at fesurau digynsail. Mae swyddogion ar draws yr awdurdod wedi bod dan bwysau anferth i barhau i ddarparu eu gwasanaethau ni waeth beth fo effeithiau’r pandemig. Mae paneli craffu wedi ystyried y pwysau hwn ac wedi addasu eu gwaith i helpu lle bo’n bosib.
Dyma restr o’r prif newidiadau a wnaed i’r rhaglen er mwyn cynnwys yr holl fesurau digynsail sydd bellach yn berthnasol i wasanaethau’r cyngor:
- Ailffocysu gwaith y pwyllgor er mwyn nodi materion o bryder a bylchau yn y rhaglen waith, gyda’r Pwyllgor Craffu’n gwneud gwaith Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn lle gwneud hynny drwy Banel Perfformiad annibynnol.
- Cyfarfodydd ar y cyd o’r Gwasanaethau Oedolion a Phlant (yn lle rhai annibynnol) er mwyn edrych yn bennaf ar fonitro perfformiad a chael y diweddaraf am sut bydd y Gyfarwyddiaeth yn rheoli COVID-19 tan fis Mawrth 2021.
- Cytunodd y Panel Craffu Perfformiad Addysg i leihau nifer yr eitemau i’w trafod yn eu cyfarfodydd misol ar gyfer mis Ionawr a Chwefror a rhoi’r diweddaraf ar COVID-19 yn unig, ac yn y cyfarfod a gynlluniwyd ar gyfer mis Mawrth 2021, byddant yn trafod cyllideb y cyngor yn unig.
- Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid wedi lleihau nifer yr eitemau y bwriadwyd eu trafod yn eu cyfarfodydd o ran adrodd am reoli perfformiad gan nad yw’r data hyn wedi bod ar gael a/neu nad yw wedi bod o werth yn sgîl yr amgylchiadau digynsail.
- Ni fydd Panel yr Amgylchedd Naturiol yn gallu cwrdd nes diwedd mis Mawrth 2021
- Gohiriwyd yr holl Weithgorau Craffu, gyda’r gweithgor ‘gweithlu’ cyntaf yn cael ei gynllunio ar gyfer 29 Mawrth 2021 i drafod sut mae’r cyngor yn cefnogi iechyd a lles ei staff.
- Ni fydd yr ymchwiliad yn dechrau nes mis Mai 2021
Leave a Comment