Edrych yn ôl ar yr hyn y mae Panel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion wedi bod yn ei wneud

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar bob un o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y gwasanaeth Craffu.

Gadewch i ni edrych yn ôl ar yr hyn y mae Panel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion wedi bod yn ei wneud:

Mawrth 2020:

Mewn ymateb i’r cyfnodau clo cenedlaethol, gohiriwyd pob cyfarfod craffu dros dro ac felly cafodd y cyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer Ebrill a Mai eu canslo. Fodd bynnag, cynhaliodd Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion gyfarfod cyn hyn ar 17 Mawrth 2020.

Cyfarfu Cynghorion Craffu â Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol a roddodd wybodaeth i’r Panel am adroddiad ac argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a sut mae Abertawe’n perfformio yn erbyn yr argymhellion. Dysgodd y Panel fod gan y cyngor strategaeth hirdymor ar gyfer ataliaeth a’i fod wedi gosod camau yn erbyn pob un o argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r Panel wedi cytuno i ychwanegu rhai o’r camau gweithredu a’u dyddiadau targed at ei flaenraglen waith.

Gorffennaf 2020

Ym mis Gorffennaf 2020 cyfarfu’r Panel am y tro cyntaf yn rhithwir i dderbyn diweddariad a oedd yn ymwneud yn benodol â’r  gwasanaeth ar y pandemig COVID-19. Roedd y trafodaethau a gafwyd yn cynnwys y canlynol; y cynllun adfer, ailstrwythuro’r gwasanaeth gofal cartref, yr effaith ar wasanaethau preswyl a’r materion sy’n ymwneud ag ailflaenoriaethu pecynnau gofal a chymhwysedd.

Diolchodd y Panel i holl staff y gwasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd a gofal cartref preifat. I ddarllen rhagor a/neu i wylio’r cyfarfod hwn a recordiwyd, cliciwch yma.

Hydref 2020

Cyfarfu’r Panel i dderbyn gwybodaeth am yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Awst 2020 ac i drafod absenoldeb staff oherwydd salwch yn y Gwasanaethau i Oedolion. Mynegodd y Panel bryder wrth glywed bod y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol dan bwysau aruthrol a oedd yn fwy dyrys yn ystod ail don y pandemig. Bu’r Panel hefyd yn trafod materion a oedd yn ymwneud â Gofal Cartref a phryderon am iechyd meddwl, a gofynnodd a oedd unrhyw wasanaethau ychwanegol wedi’u sefydlu ers dechrau’r pandemig.

Cliciwch yma i weld yr holl adroddiadau a gyflwynwyd ac i weld manylion yr hyn a drafodwyd yn fanwl yn y cyfarfod hwn.

Rhagfyr 2020 – Chwefror 2021

Cyfarfu Panel Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phanel Craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar y cyd i ysgafnhau ychydig o’r pwysau sydd ar staff sy’n ymdrin â’r feirws. Canolbwyntiodd cyfarfodydd ar y cyd Panel Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar fonitro perfformiad a bu’n edrych yn bennaf ar sut mae’r Gyfarwyddiaeth yn rheoli COVID-19.

Cliciwch yma i ddarllen rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfodydd hyn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.