Felly beth mae’r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio wedi bod yn ei wneud?

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar holl wasanaethau’r cyngor gan gynnwys craffu.

Gadewch i ni edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio wedi bod yn ei wneud:

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud cenedlaethol, gohiriwyd pob cyfarfod craffu dros dro ac felly canslwyd y cyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth, mis Mai a mis Awst 2020.

Medi 2020

Cyfarfu’r Panel yn rhithwir am y tro cyntaf i drafod Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am y prosiectau adfywio yn Abertawe.

Trafododd y Panel gynnydd y canlynol: Abertawe Ganolog – Cam 1; Gogledd Abertawe Ganolog; Ffordd y Brenin – Isadeiledd a Mannau Cyhoeddus; Ffordd y Brenin – Strategaeth a Phentref Digidol; Marchnata Safleoedd Strategol yng Nghanol y Ddinas; Prosiectau adfywio Safleoedd Strategol a Throsolwg o’r Prosiect.

Cafodd y Panel rai ceisiadau gan y Cabinet, gan gynnwys:

  • Delweddau o’r arena, ardal breswyl ochr y gogledd a’r maes parcio aml lawr
  • Trefnu ymweliad Panel ag ardal safle’r arena
  • Gwybodaeth am adrannau’r llywodraeth sydd â diddordeb mewn lleoli hybiau yn Abertawe a nifer y swyddi sydd i’w trosglwyddo i Abertawe
  • Gwybodaeth am nifer y swyddi sydd yn cael eu creu yn y ddistyllfa

I weld manylion am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Tachwedd 2020 – Mawrth 2021:

Parhaodd y Panel i gyfarfod yn rhithwir i dderbyn diweddariadau rheolaidd ar yr holl brosiectau adfywio yn Abertawe. Mae’r holl gyfarfodydd a gynhaliwyd wedi’u cofnodi a’u lanlwytho ar wefan y cyngor, cliciwch yma i weld manylion.

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2021, roedd y Panel yn falch o gwrdd â Chyfarwyddwr Gweithrediadau a Rheolwr Busnes Ambassador Theatre Group (ATG) a oedd yn bresennol i gyflwyno trosolwg o ATG. Dysgodd y Panel fod ATG yn fusnes integredig fertigol; mae’n gweithredu lleoliadau, yn cynhyrchu sioeau ac yn gwerthu tocynnau ar gyfer lleoliadau eiconig fel Savoy Theatre yn Llundain, The Colonial Theatre yn Boston, a’r Smart Financial Centre yn Houston.

Dysgodd y Panel hefyd fod tîm cynyrchiadau a phartneriaid cynhyrchu ATG, Sonia Friedman Productions, wedi ennill chwe deg o wobrau Tony ac Olivier gyda’i gilydd a bod ATG yn gweithio gyda phartneriaid proffil uchel fel Disney i ddarparu cynyrchiadau a sioeau, er enghraifft The Lion King.

Roedd y Panel yn falch o glywed bod proses recriwtio ATG ar y gweill, gyda’r nod o recriwtio 70% o’r cant o staff achlysurol amcangyfrifedig yn lleol. Mae ATG eisoes wedi penodi Rheolwr Cyffredinol a disgwylir i nifer o swyddi gael eu llenwi dros y misoedd nesaf, gan gynnwys Rheolwr Cynadleddau a Digwyddiadau.

Trafododd y Panel hefyd faterion yn ymwneud â’r dyluniad, adeiladu a gosod offer technegol theatr. Disgwylia ATG benodi gwasanaethau adeiladu, megis cyflenwyr diogelwch a bwyd/diod, yn lleol o’r mynegiannau o ddiddordeb a gafwyd mewn ymateb i alwad am gyflenwyr lleol.

I weld recordiad o’r cyfarfod hwn, darllen yr adroddiadau a gyflwynwyd a chael gwybod yr holl fanylion a drafodwyd, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.