Edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid wedi bod yn ei wneud:

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar holl wasanaethau’r cyngor gan gynnwys craffu.

Gadewch inni edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid wedi bod yn ei wneud:

Mawrth 2020:

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud cenedlaethol, ataliwyd pob cyfarfod craffu dros dro ac felly cafodd cyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth a mis Mai eu canslo.

Medi 2020:

Ym mis Medi, cyfarfu’r Panel â’r Rheolwr Perfformiad Corfforaethol a’r Cyfarwyddwr Adnoddau am y tro cyntaf yn rhithwir?? i drafod Adroddiad Blynyddol Monitro Perfformiad 2019/20.

Trafododd y Panel faterion yn ymwneud â; Mesurau Diogelu, Addysg a Sgiliau, Trechu Tlodi, Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol, Natur a Bioamrywiaeth a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus.

Caiff y cyfarfod hwn a’r holl gyfarfodydd craffu rhithwir eu cofnodi a’u lanlwytho ar wefan y cyngor. I weld y cyfarfod hwn a’r holl adroddiadau a gyflwynwyd, cliciwch yma.

Tachwedd 2020:

Cyfarfu’r Panel i drafod Adroddiad Monitro Cyllideb Chwarter 1 2020/21, adolygiad o Gronfeydd Refeniw wrth Gefn, derbyn Datganiad Cyllideb Canol Tymor llafar, trafod Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol Ailgylchu a Thirlenwi 2019/20 a chynllunio rhaglen waith y panel ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020/21.

Talodd y Panel deyrnged i’r staff a rheolwyr y Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, am eu gwaith caled a’u hymroddiad drwy gydol y pandemig. Clywodd y Panel y bu cryn ganmoliaeth gan y cyhoedd am barhad y gwasanaethau hyn drwy gydol y cyfnod.  Clywodd y Panel hefyd y cyrhaeddwyd 64% o’r targed ailgylchu ar ddiwedd mis Mawrth; cynnydd o 2.1% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda chymorth yr ymgyrch ‘Nid fan hyn’.

Dywedodd swyddogion wrth y Panel ei bod yn bosib na fydd y targed ailgylchu o 64% yn cael ei gyflawni ar gyfer 2020/2021 ac y gellir priodoli’r diffygion i effaith COVID-19, gan y gorfodwyd i ganolfannau ailgylchu gau am ddeufis ac ataliwyd casgliadau gwastraff swmpus. Eglurodd swyddogion y byddai’r gwasanaeth, dan yr amgylchiadau arferol, wedi bod yn fwy hyderus o gyrraedd y targed o 64% ac felly nid ydynt yn disgwyl unrhyw ddirwyon na chosbau ac maent yn deall bod Llywodraeth Cymru yn cydymdeimlo â’r sefyllfa hon.

Cliciwch yma i weld popeth a drafodwyd yn y cyfarfod hwn yn fanwl.

Rhagfyr 2020:

Ym mis Rhagfyr cyfarfu’r Panel i drafod Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb blynyddol 2019/20.

Roedd arwyddocâd arbennig i’r Adolygiad eleni yng ngoleuni’r pandemig, a oedd fel pe bai’n amlygu anghydraddoldebau pellgyrhaeddol ledled y wlad.

Dywedodd swyddogion wrth y Panel fod Bwrdd Cydraddoldeb strategol newydd yn cael ei sefydlu i hyrwyddo amcanion. Roedd y Panel yn falch o glywed y caiff y system newydd, ‘Oracle Cloud’, ei  hadeiladu ar y system Adnoddau Dynol a chyllid bresennol, gan ei gwneud yn fwy cadarn ac yn haws cael gafael ar wybodaeth a’i chofnodi.

Cydnabu’r Panel fod camau’n cael eu cymryd i wella’r broses o gasglu data, ond mae wedi gofyn am gael gwybod mwy am yr hyn y mae’r camau hyn yn ei olygu’n union a gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth am sut y gellir rhoi sicrwydd i bobl y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio’n effeithlon ac yn briodol.

Cytunodd y Panel y bydd data cywir a pherthnasol yn helpu’r cyngor i ateb ac ymateb yn gyflymach i sefyllfaoedd fel effaith y pandemig ar y gymuned Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Clywodd y Panel fod y cyngor yn gweithio’n agos gydag Adnoddau Dynol ac Undebau i ddeall sut i ofyn a geirio cwestiynau’n well ac yn gyffredinol i roi sicrwydd i wrthrychau data nad oes diben negyddol i unrhyw wybodaeth a gesglir, ond yn hytrach mai’r diben yw gallu ateb ac ymateb, gan gefnogi’r gweithlu.

Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn clywed am astudiaeth achos Cyfnewid Ysgolion, menter cydlyniant cymunedol ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, a gofynnodd am ragor o wybodaeth am adran hanes achosion yr Adolygiad ac yn arbennig enwau’r ysgolion a gymerodd ran yn y cynllun cyfnewid.

Trafododd y Panel hefyd faterion yn ymwneud â ‘Darparu Gwasanaethau i Bawb mewn modd Teg’, gofynion cyfreithiol yr Adolygiad, Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a safbwyntiau mewn perthynas â Chydlyniant Cymunedol.

 Cliciwch yma i weld yr Adolygiad hwn ac i ddarllen rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Ionawr 2021 – Mawrth 2021

Parhaodd y Panel i gyfarfod yn fisol. Cyfarfu’r Panel ym mis Chwefror i graffu ar gynigion y Gyllideb Flynyddol ac maent wedi codi pwyntiau i’r Cabinet o bob un o’r paneli perfformiad craffu.

Nododd y panel fod y Gyllideb eleni’n unigryw ac yn ddigynsail. Diolchon nhw i swyddogion a staff am eu gwaith caled gan gydnabod bod yr arian wedi’i ddosbarthu’n gyflym.

Mae’r Panel wedi gofyn i’r Cabinet ateb ymholiadau penodol, gan gynnwys:

  • Syniadau ynghylch menter ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd o ran cefnogaeth i staff
  • Eglurhad ar lefel y benthyca, mewn perthynas â’r Fargen Ddinesig, a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffrydiau refeniw yn y dyfodol.
  • Rhagor o wybodaeth am yr effaith ariannol ar gyllid y cyngor ar gyfer yr amryfal  gydbwyllgorau yn y dyfodol y gellir eu cyflwyno a’u codi yn erbyn cyllideb y cyngor

I weld popeth a drafodwyd yn y cyfarfod hwn ac i ddarllen yr holl lythyrau ac adroddiadau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet, cliciwch yma.

Disgwylir i’r Panel gyfarfod ar 12 Ebrill 2021 a bydd yn trafod Adroddiad Blynyddol cwynion corfforaethol yr awdurdod. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol yma er mwyn cael y diweddaraf am ganlyniadau’r cyfarfod hwn ac i gael gwybod am gyfarfodydd y panel hwn sydd ar ddod.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.