Cynghorwyr Craffu’n cwrdd â disgyblion Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Gwnaeth Cynghorwyr Craffu’r Panel Perfformiad Addysg gwrdd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a’r Cyfarwyddwr Addysg i drafod y cynllun adfer o COVID ar gyfer addysg, gwariant y Grant Datblygu Disgyblion a chraffu rhanbarthol. Dechreuodd y Panel y cyfarfod gyda’r Pennaeth a phedwar disgybl o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, a chlywodd eu barn am ddysgu o bell a dysgu cyfunol. Gwnaethant drafod sut maent wedi cadw’n iach yn ystod y cyfyngiadau symud, yr heriau y gwnaethant eu hwynebu wrth ddysgu gartref, yr uchafbwyntiau o fod gartref a sut maent wedi gwneud cynnydd. Roedd y Panel yn falch o glywed eu bod bellach yn falch o fod nôl yn yr ystafell ddosbarth.

Y Cynllun adfer o COVID ar gyfer Addysg ac Ysgolion

Roedd y Panel yn falch o glywed bod yr holl ysgolion cynradd wedi dychwelyd i’r ysgol yn llawn ac y byddai’r holl ddisgyblion uwchradd yn dechrau dychwelyd o 12 Ebrill. Clywodd y Panel fod 100 o ddisgyblion cynradd ac oddeutu 400 o ddisgyblion uwchradd wedi gorfod hunanynysu oherwydd y cafwyd ychydig o achosion yn ysgolion y gymuned.

Mynegodd y Panel ei werthfawrogiad am yr ymdrechion a wnaed gan ysgolion a’r adran addysg er mwyn i ddisgyblion allu dychwelyd i’r ysgol mor esmwyth â phosib, ac am y ffocws pwysig a roddwyd ar les disgyblion a staff.

Grant Datblygu Disgyblion

Derbyniodd y Panel grynodeb o’r gwariant ar gefnogi disgyblion diamddiffyn. Clywodd y Panel fod y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) wedi helpu ysgolion i wella deilliannau disgyblion diamddiffyn ar draws Abertawe. Esboniodd swyddogion fod lles wedi bod yn ganolog i lawer o’r arian a wariwyd, gan gynnwys cefnogi teuluoedd, er enghraifft.

Clywodd y Panel nad yw’r GDD ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru eto, a bod pryderon am y grant yn cael ei ddyrannu flwyddyn ar ôl blwyddyn gan ei fod yn ei gwneud hi’n anodd cynllunio ymlaen llaw.

Gwasanaeth Gwella Addysg Rhanbarthol (ERW)

Clywodd y Panel fod adroddiad wedi mynd i’r Cabinet yn gofyn iddynt ohirio gwahanu Abertawe o ERW er mwyn caniatáu mwy o amser i’r rhanbarth sefydlu trefniadau ar gyfer corff rhanbarthol newydd, a fydd yn gweithredu o 1 Medi 2021. Mae Cyngor Abertawe, Sir Gâr, Powys a Sir Benfro wedi cytuno aros yn y bartneriaeth dros dro nes 31 Awst 2021.

Gofynnodd y Panel am drefniadau llywodraethu’r bartneriaeth newydd, a sut y bydd craffu’n rhan o’r model newydd hwn, beth yw ei brif amcanion a sut y caiff llwyddiant ei fesur. Clywodd y Panel y bydd y trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno i bob awdurdod lleol er mwyn i’r Cabinet gytuno arnynt, ac y bydd y cynlluniau hyn a’r model llywodraethu hefyd yn cael eu rhannu â chyrff craffu yn lleol.

I weld manylion am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.