Mae’r Panel Craffu’n falch o glywed bod gwaith recriwtio Ambassador Theatre Group wedi dechrau

Roedd Cynghorwyr y Panel Datblygu ac Adfywio’n falch o gwrdd â Chyfarwyddwr Gweithrediadau a Rheolwr Busnes Ambassador Theatre Group (ATG) a oedd yn bresennol yn nghyfarfod y panel ym mis Mawrth i gyflwyno trosolwg o ATG.

Dysgodd y Panel fod ATG yn fusnes integredig fertigol; mae’n gweithredu lleoliadau, yn cynhyrchu sioeau ac yn gwerthu tocynnau ar gyfer lleoliadau eiconig fel Savoy Theatre yn Llundain, The Colonial Theatre yn Boston, a’r Smart Financial Centre yn Houston.

Dysgodd y Panel hefyd fod tîm cynyrchiadau a phartneriaid cynhyrchu ATG, Sonia Friedman Productions, wedi ennill chwe deg o wobrau Tony ac Olivier gyda’i gilydd a bod ATG yn gweithio gyda phartneriaid proffil uchel fel Disney i ddarparu cynyrchiadau a sioeau, er enghraifft The Lion King.

Roedd y Panel yn falch o glywed bod proses recriwtio ATG ar y gweill, gyda’r nod o recriwtio 70% o’r cant o staff achlysurol amcangyfrifedig yn lleol. Mae ATG eisoes wedi penodi Rheolwr Cyffredinol a disgwylir i nifer o swyddi gael eu llenwi dros y misoedd nesaf, gan gynnwys Rheolwr Cynadleddau a Digwyddiadau.

Trafododd y Panel hefyd faterion yn ymwneud â’r dyluniad, adeiladu a gosod offer technegol theatr. Disgwylia ATG benodi gwasanaethau adeiladu, megis cyflenwyr diogelwch a bwyd/diod, yn lleol o’r mynegiannau o ddiddordeb a gafwyd mewn ymateb i alwad am gyflenwyr lleol.

I weld recordiad o’r cyfarfod hwn, darllen yr adroddiadau a gyflwynwyd a chael gwybod yr holl fanylion a drafodwyd, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.