Cyfarfod diweddaraf y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Cyfarfu’r Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid fis diwethaf i drafod adroddiad Monitro Cyllideb Chwarter 3 (C3) 2020-21, Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2020-21 a Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

Clywodd y Panel fod y cyngor, yn C3, wedi cyflwyno colled incwm i Lywodraeth Cymru (£2.2m yw’r sefyllfa a gadarnhawyd erbyn hyn), a bod swyddogion wedi cyflwyno’r hawliad colli incwm yn C4, ond nid yw’r swm terfynol a glustnodwyd wedi’i gadarnhau eto.

Eglurodd swyddogion hefyd:

  • Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai am £50m a glustnodwyd ar sail cyfran deg pro-rata, maent yn rhagweld y bydd cyfran Cyngor Abertawe oddeutu £3.75m.
  • Cyhoeddwyd estyniad o £42.5m i’r gronfa caledi a fydd yn cynnwys prydau ysgol am ddim tan wyliau’r Pasg; Mae cyfran Abertawe’n debygol o fod tua £3m
  • Mae’n debygol y bydd cyfran bellach o arian grant busnes, hyd at £15m o bosib cyn diwedd y flwyddyn – bydd yr arian hwn yn dod i mewn i’r cyngor ac yn cael ei roi i fusnesau’n syth
  • Bydd y gronfa caledi’n cael ei hymestyn am chwe mis cyntaf y flwyddyn nesaf. Nid yw swyddogion yn gwybod beth fydd cyfran Cyngor Abertawe eto.
  • Mae edrych ar gyflymder, graddfa ac amlder cyhoeddiadau am gyllid gan Lywodraeth Cymru wedi gwella’r sefyllfa ariannol yn sylweddol

Clywodd y Panel y bydd gofynion ariannol Cyfalaf yn cynyddu cannoedd o filiynau o bunnoedd, wedi’u mesur fel canran o’r gyllideb refeniw. Esboniodd swyddogion eu bod, ym mhob senario, yn gweld cyllidebau’n cynyddu, er y bydd cydadweithio cymhleth.

Holodd y Panel am wariant cyfalaf y gronfa gyffredinol; pam mae gwahaniaeth enfawr yn yr amcangyfrif/alldro gwreiddiol. Esboniodd swyddogion fod hyn o ganlyniad uniongyrchol i adeiladu’r Arena, ac wedi’i sbarduno gan wariant yr ysbyty maes. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid fod hyn yn dangos faint o wariant cyfalaf sydd ar y gweill.

Ers hynny, mae’r Panel wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth ac wedi gofyn am wybodaeth fanwl am y cynnydd disgwyliedig mewn ad-daliadau sy’n ymwneud â gwariant cyfalaf y gronfa gyffredinol oherwydd y cynnydd yn y gofynion benthyca.

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr hwn ac i weld y cyfarfod hwn a recordiwyd.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.